Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2742°N 4.3106°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentrefan yng nghanol Môn ydyw Rhos-y-Meirch, neuRhosmeirch ( ynganiad ), heb fod yn bell o'r dref farchnad Llangefni. Mae ystad wledig Tregaian[1] wedi/yn meddu sawl un o eiddo'r pentref. Y B5111 yw'r brif ffordd sy'n mynd drwy'r pentref, ond mae sawl ffordd unigol yn mynd yng nghefnau'r pentref. Un enghraifft penodol o lon gefn sy'n eithaf cyfarwydd i sawl un o'r pentref yw 'lôn Bacsia'; daw' tarddiad yr enw hynafol yma ar ôl y math o esgid y tuedda' geffylau eu gwisgo er mwyn cael gafael gwell ar lonydd / llechweddau mewn rhewlifau. Wedi'i lleoli ar un o lonydd cefn y pentref, ac yn eithaf canolog i'r pentref,mae adeilad yr ysgol, sydd wedi cau ers sawl blwyddyn, fodd bynnag, mae'r adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Gymdeithasol. Ynddi, fe gynheilir ambell i ddigwyddiad megis cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol. Yno hefyd, y tuedda'r gangen leol o Ferched y Wawr gyfarfod. Arferai Clwb Ieuenctid gael ei gynnal yn y pentref yn y ganolfan gymdeithasol. Capel Ebenezer, ger 'lôn Bacsia' yw'r unig addoldy yma, er y ceir safle eglwys ganrifoedd oed - Capel Heilyn - yn y pentref (nid oes olion ar ôl). Ar un adeg, arferai'r pentref fod â sawl ffynon ddŵr, ble, mae'n debyg y byddai'r pentrefwyr yn cael eu dŵr yfed. Erbyn heddiw, mae olion y rhan fwyaf o'r ffynhonnau i'w gweld, megis ffynnon Clwch a ffynnon Trefollwyn. Gerllaw y pentref, mae coedwig sy'n eich harwain tuag at Llyn Cefni[2].
Trefi
Amlwch ·Benllech ·Biwmares ·Caergybi ·Llangefni ·Niwbwrch ·Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·Bethel ·Bodedern ·Bodewryd ·Bodffordd ·Bryngwran ·Brynrefail ·Brynsiencyn ·Brynteg ·Caergeiliog ·Capel Coch ·Capel Gwyn ·Carmel ·Carreglefn ·Cemaes ·Cerrigceinwen ·Dwyran ·Y Fali ·Gaerwen ·Glyn Garth ·Gwalchmai ·Heneglwys ·Hermon ·Llanallgo ·Llanbabo ·Llanbedrgoch ·Llandegfan ·Llandyfrydog ·Llanddaniel Fab ·Llanddeusant ·Llanddona ·Llanddyfnan ·Llanedwen ·Llaneilian ·Llanfachraeth ·Llanfaelog ·Llanfaethlu ·Llanfair Pwllgwyngyll ·Llanfair-yn-Neubwll ·Llanfair-yng-Nghornwy ·Llan-faes ·Llanfechell ·Llanfihangel-yn-Nhywyn ·Llanfwrog ·Llangadwaladr ·Llangaffo ·Llangeinwen ·Llangoed ·Llangristiolus ·Llangwyllog ·Llanidan ·Llaniestyn ·Llannerch-y-medd ·Llanrhuddlad ·Llansadwrn ·Llantrisant ·Llanynghenedl ·Maenaddwyn ·Malltraeth ·Marian-glas ·Moelfre ·Nebo ·Pencarnisiog ·Pengorffwysfa ·Penmynydd ·Pentraeth ·Pentre Berw ·Pentrefelin ·Penysarn ·Pontrhydybont ·Porthllechog ·Rhoscolyn ·Rhosmeirch ·Rhosneigr ·Rhostrehwfa ·Rhosybol ·Rhydwyn ·Talwrn ·Trearddur ·Trefor ·Tregele