Rhodri Owen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Rhagfyr 1972 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr ![]() |
Priod | Lucy Owen ![]() |
Cyflwynydd radio a theleduCymraeg ei iaith ywRhodri Owen (ganed21 Medi1972).
Cafodd Owen ei eni yny Crwys, a'i fagu arBenrhyn Gwyr[1] i deulu Cymraeg eu hiaith. MynychoddYsgol Gyfun Gŵyr ynNhregwyr, Abertawe cyn symud i'r chweched dosbarth ynYsgol Gyfun Ystylafera. Roedd Owen hefyd yn aelod o Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.[2]
Dechreuodd ei yrfa yn darlledu yn y Gymraeg ar gyferRadio Cymru. Parhaodd i weithio ar raglen frecwast fore Sadwrn, cyn iddo symud i sioe frecwastRed Dragon FM. Wedi iddo gyflwyno arBBC Radio 5 Live, daeth Owen yn llais cyfarwydd arBBC Radio Wales hefyd.
Dechreuodd Owen weithio ar y teledu arS4C ym1993 fel cyflwynydd parhad yn ystod rhaglenni i blant, cyn iddo ymddangos ar amryw o raglenni gan gynnwys y rhaglenni cylchgrawn i blantNoc Noc acUned 5. Ar ôl gweithio am chwe mlynedd ar y sianel Gymraeg, symudodd Owen iLundain ac ymunodd âCBBC, yn cyflwyno'r rhaglen i blantShort Change. Aeth ymlaen i weithio ar raglen ymchwilio ar ran cwsmeriaid BBC Wales,X-Ray ac ef oedd cyflwynydd4x4,Liquid Assets arBBC Three, a'r rhaglen deithioHoliday ar BBC1. Yna treuliodd dair blynedd yn gweithio ar raglen deithioITVWish You Were Here...?,Holiday in Style ar gyferUK Style aHard Cash arBBC1.[3]
Roedd Owen yn bresennol yn westai ar rhaglenDerek Acorah's Ghost Towns arLiving TV[4]. Yn 2006, cyd-gyflwynoddBritain's Dream Homes gydaMelissa Porter ar BBC Two.
Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Owen,Bwyd bwyd bwyd (food food food), am fwyd iach wedi ei anelu at blant. Yn 2009, daeth yn gyflwynydd rhaglenS4CWedi 3 (a'i olynyddPrynhawn Da) ac yn gyfarwyddwr stiwdioPlaned Plant.[5]. Ers 2011 mae'n un o brif gyflwynwyrHeno arS4C.
Priododd Owen y cyflwynydd teleduLucy Cohen ym mis Mehefin 2004, yn Eglwys Saint Andras,Saint Andras gerDinas Powys,[6] ac mae ganddynt un mab, Gabriel. Bu farw brawd Owen,Geraint Owen yn sydyn ar11 Gorffennaf2009.[7]