Mae "rhesymyddiaeth" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am ddefnyddiau eraill, gwelerrheswm.
Paentiad olew gan Ludwig Seitz (1844–1908)Ffydd a rheswm yn un. Sylwer arSant Thomas Aquinas yn addysgu yn y cefn a'r ysgrifen: "divinarum veritatum splendor, animo exceptus, ipsam juvat intelligentiam", ganPab Leo XIII (Aeterni Patris). Galleria dei Candelabri, y Fatican.
Gallu dyn i feddwl mewn ffordd arbennig ydyrhesymeg; troi tybiaethau a damcaniaethau'n gasliad neu'n benderfyniad. Mewn geiriau eraill, dyma'r drefn mae pobl rhesymol yn cynnig rhesymau neu eglurhad dros "achos ac effaith".
Defnyddir y gair "rheswm" hefyd yn fwy llac, fel gair sy'n cyfiawnhau rhywbeth sydd wedi'i ddweud neu ei wneud, e.e. "Dyna'r rheswm pam nad af yno."[1]
Mae rhesymu'n unigryw i'rnatur ddynol ac yn un o ddiffiniadau'r bod dynol. Bellach, cysylltir y gair gyda'r arferiad o ddod i'r penderfyniad cywir gan gyrff sydd mewn awdurdod a sefydliadau addysg. Oherwydd hyn, mae llawer o gyrff eraill yn ceisio hawlio eu defnydd o reswm er mwyn gwella eu delwedd neu fod yn rhan dderbyniol o gymdeithas e.e. cyrff sy'n ymwneud gemosiwn,Yr Ocwlt affydd. Gellir edrych ar y tair disgyblaeth hyn fel gwrthwyneb i reswm.
Yr hyn sy'n gwneud rhesymeg yn wahanol i weddill ffurfiau o ymwybyddiaeth yw'r dull gwyddonol bron o fedru cyfiawnhau'r modd mae person wedi dod i gasgliad.