Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Rheolaeth

Oddi ar Wicipedia

Diffinnirrheolaeth fel "y grefft o sicrhau fodgwaith yn cael ei wneud drwy bobl eraill". Mae dirprwyo gwaith felly yn rhan bwysig o sgìl y rheolwr/wraig, ond rhaid hefyd wrth y gallu i arwain, i ysbrydoli, ac i gymell eraill. Mae yna faes eang o ddamcaniaethau ynglŷn agarweinyddiaeth, cymhelliant sydd yn dod o faescymdeithaseg aseicoleg yn bennaf.Ffrancwr o'r enwHenri Fayol (1841-1925) oedd y cyntaf i ddechrau gwneud damcaniaeth am reolaeth ac yn ei farn ef pwrpas rheoli yw rhagweld, trefnu, gorchymyn a chydgysylltu, syniadau sy'n dod o faes y gad, gyda llawer o'r termau rheolaeth yn adlewyrchu hynny, termau milwrol megis "strategaeth", gorchymyn, arwain, ac ati.[1]

Hanes rheolaeth

[golygu |golygu cod]

Un o arloeswyr cynharaf y grefft neu'rr wyddor o heoli oeddFrederick Winslow Taylor (1856–1915) a oedd wedi astudio gwaith, amser a symudiadau (time and motion) ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Cafodd Taylor ddylanwad mawr ar ddiwydianwyr megisHenry Ford yn y modd yr oedd yn rheoli ei weithwyr. Roedd Taylor yn ei dro wedi derbyn nifer o syniadauAdam Smith yn ei lyfrThe Wealth of Nations ynglŷn â rhaniad llafur wrthweithgynhyrchu. Datblygodd Taylor y syniad o raniadllafur gan gredu fod un ffordd iawn i wneud pobl dim.

Gelwir damcaniaethau Taylor yn ddamcaniaethau "clasurol rheoli" neu reoli gwyddonol. Datblygodd yr wyddor o reoli ymhellach ganElton Mayo yn y 1930au pan gynhaliodd astudiaeth gymdeithasol yng ngwaith "Hawthorne" yrWestern Eletric Company yn Cicero gerChicago. Darganfu Mayo yn ystod ei astudiaeth fod pobl yn ymateb yn gadarnhaol pan fyddant yn cael sylw gan reolwyr. Damcaniaeth Elton Mayo yw bod gweithwyr ddim yn gweithio yn hollol fecanyddol fel y credai Taylor ond yn hytrach yn ymateb i'r grŵp maent yn gweithio ynddo a hefyd i sylw rheolwyr. Felly mae Mayo yn argymell gweithio mewn tîm neu grŵp dan arweiniad rheolwyr sydd yn cymryd sylw o'u hanghenion.

Y presennol

[golygu |golygu cod]

Yn ddiweddar mae pobl megisTom Peters yn ei lyfrThriving on Chaos yn dweud fod yn rhaid i reolwyr fod yn barod i dderbyn newid parhaus yn y gwaith. Mae son am newid i wella pethau yn gallu ymddangos fel beirniadaeth o berfformiad ac arferion y gorffennol. Mae newid hefyd yn cael ei weld fel trafferth ychwanegol oherwydd mae’n golygu newid hen arferion gweithio. Mae newid yn creu ofnau dwfn am allu'r unigolyn i ddysgusgiliau newydd, ac ofnau am golli'r hyn sydd ganddynt nawr, boed yn statws neu hyd yn oed swydd.

Felly rhaid i’r rheolwr wrth egluro’r rheswm am newid geisio tawelu ofnau pobl drwy sicrhau y bydd y newid, os yn bosib, o fudd iddynt. Dylid ceisio dangos fod y newid yn adeiladu ar y gorffennol yn hytrach na rywbeth hollol newydd. Dylid sicrhau fodhyfforddiant addas ar gael os oes angen sgiliau newydd i gyflawni’r newid.

Mae gwrthwynebiad i newid yn gallu bodoli oherwydd:

  • diffyg ymddiriedaeth
  • diffyggwybodaeth
  • hunan-les, sef ofn colli
  • profiadau gwael o’r gorffennol
  • pwysau gwaith
  • sibrydion di-sail
  • datganiadau sy’n gwrth ddweud
  • ddim yn gweld yr angen i newid

Y camau tuag at newid effeithlon yw:

  1. Darbwyllo fod angen newid
  2. Gwybodaeth ddigonol am y newid
  3. Trafod anghenion hyfforddi
  4. Sicrhauadnoddau i’r newid
  5. Cynllunio’r newid
  6. Gweithredu’r newid
  7. Monitro’r newid
  8. Adolygu a gwerthuso’r newid

Mae syniadau Tom Peters yn cael ei galw yn "ddamcaniaeth rheoli sefyllfaol", sef un o'r damcaniaethau diweddaraf am reoli.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Administration industrielle et générale - prévoyance organization - commandment, coordination – contrôle, Paris : Dunod, 1966
Is-feysydd
Anthropoleg
Cyfraith
Cymdeithaseg
Daearyddiaeth
Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth
Hanes
Ieithyddiaeth
Seicoleg
Meysydd rhyngddisgyblaethol
Dulliau a methodoleg
Categorïau a dosbarthiadau tebyg
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Rheolaeth&oldid=9023340"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp