MaeRheilffordd danddaearol Glasgow (Gaeleg:Fo-thalamh Ghlaschu;Sgoteg:Glesga Subway;Saesneg:Glasgow Subway) yn rheilffordd ynGlasgow,Yr Alban. Agorwyd y rheilffordd ar 14 Rhagfyr 1896,[1] un o reilffyrdd tanddaearol hynal y byd. Mae'r rheilffordd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas, ac mae ei drenau'n mynd yn y 2 gyfeiriad. Mae 15 o orsafoedd, ac mae’r cylch yn cymryd 24 munud.[2] Lled y traciau yw 1219 mm (4 troedfedd) ac mae hyd y cylch 15.2 cilometr (9.5 milltir).
Adeiladwyd y rheilffordd dros gyfnod o pum mlynedd, yn costio £1.5 miliwn. Roedd gan ddim ond Llundain a Budapest reilffyrdd tanddaearol cyn 1896. Caewyd y rheilffordd ar y diwrnod cyntaf oherwydd damwain; ail-agorwyd y rheilffordd ym mis Ionawr 1897. Defnyddiwyd y rheilffordd gan dros 9 miliwn o deithwyr yn ystod ei blwyddyn gyntaf.[1]
Tynnwyd ei cherbydau gan gablen hyd at 1935 pan ddaeth y rheilffordd yn un drydanol.
Dyma fap y rheilffordd yn 1965. Erbyn hyn, Mae 'Merkland Street' wedi dod yn 'Kelvinhall', a 'Copland Road' yn 'Ibrox':
Map y rheilffordd yn 1965. Erbyn hyn, Mae 'Merkland Street' wedi dod yn 'Kelvinhall', a 'Copland Road' yn 'Ibrox'