Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Rhanwedd

Oddi ar Wicipedia
Enghraifft o wasanaeth rhanwedd: y wefan rhwydweithio cymdeithasol LinkedIn.

Maerhanwedd yn gynnyrch digidol a roddir am ddim; gall y cynnyrch fod ynfeddalwedd, yngêm gyfrifiadurol neu'n wasanaeth ar y we. Fel arfer, er fod y pris am ddim, codir am rannau atodol, ychwanegol. Defnyddir y math hwn o strategaeth prisio gan y diwydiant meddalwedd ers y1980au, a manylir ar yr hawliau mewntrwydded meddalwedd penodol.[1][2]

Maerhadwedd a"free-to-play" yn amrywiadau ar y math hwn o strategaeth marchnata. Er bod cynnyrch rhanwedd yn bodoli ers yr 1980au, ni fathwyd enw arno'n Saesneg tan2006, mewn blog gan y cyfalafwr Fred Wilson a Jarid Lukin o'r cwmni Alacra,[3] a bathwyd y term Cymraeg yn y 2010au.

Gellir edrych ar feddalwedd a gwasanaeth rhanwedd fel abwyd a deflir i'r dŵr, am ddim, gyda'r gobaith o ddal pysgodyn, y cwsmer! Gair cyfansawdd sydd yma: 'rhan' a 'wedd' fel a geir yn y gair 'meddalwedd'.

Enghreifftiau:

  • gwasanaethau rhanwedd:The New York Times, 'LinkedIn' a 'Badoo'.[4][5][6]
  • gemau rhanwedd: Smurfs' Village (2011) gan gwmni Capcom ac Angry Birds, gêm fideo gan Rovio Entertainment.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. JLM de la Iglesia, JEL Gayo, "Doing business by selling free services". Web 2.0: The Business Model, 2008. Springer
  2. Tom Hayes, "Jump Point: How Network Culture is Revolutionizing Business". 2008. Tudalen 195.
  3. Schenck, Barbara FindlayNodyn:Failed verification (7 Chwefror 2011)."Freemium: Is the Price Right for Your Company?". Entrepreneur. Cyrchwyd2018-01-09.
  4. Barr, Alistair (2011-09-11)."'Freemium' approach attracts venture capital".The Montreal Gazette. Postmedia Network Inc. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2018-11-19. Cyrchwyd2013-08-13.
  5. Chittum, Ryan (2011-07-22)."The NYT Paywall Is Out of the Gate Fast".Columbia Journalism Review. Cyrchwyd2011-12-07.
  6. Rooney, Ben (2012-01-24)."A Very Social Network".The Wall Street Journal. Cyrchwyd2012-08-13.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Rhanwedd&oldid=10883606"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp