Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Rhaniad Gogledd-De

Oddi ar Wicipedia
Darluniad modern o'r rhaniad Gogledd-De. Mae glas yn cynnwys gwledydd y Gogledd (yr G8 a gwledydd datblygedig/y Byd Cyntaf), a choch yn cynnwys gwledydd y De.

Rhaniadeconomaidd-gymdeithasol agwleidyddolbydol sy'n bodoli rhwng ygwledydd datblygedig cyfoethog, a elwir yn "y Gogledd", a'rgwledydd datblygol (yn cynnwys ygwledydd lleiaf datblygedig), a elwir yn "y De", yw'rrhaniad Gogledd-De.[1] Er lleolir y rhan fwyaf o wledydd y Gogledd ynHemisffer y Gogledd, niddaearyddiaeth sy'n diffinio'r rhaniad yn bennaf. Mae'r Gogledd yn cynnwys pedwar o bum aelod arhosolCyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac holl aelodau'rG8, ac yn cyfansoddiy Gorllewin a'rByd Cyntaf gyda nifer o wledydd yrAil Fyd hefyd. Mae'r term "rhaniad Gogledd-De" dal yn gyffredin, ond mae'r termau "Gogledd" a "De" wedi'u dyddio braidd. Wrth i wledydd dod yn fwy economaidd ddatblygedig, gallent dod yn rhan o'r Gogledd beth bynnag yw eu lleoliad daearyddol, tra ystyrid unrhyw wledydd eraill nad ydynt yn bodloni'r statws datblygedig fel rhan o'r De.[2]

Problemau gyda'r rhaniad

[golygu |golygu cod]

Gwanháu'r term rhaniad Gogledd-De wnaeth cwymp yBloc Sofietaidd a'r tlodi a ddilynodd gan fod nifer o'r cyn-weriniaethau Sofietaidd nawr yn dod o dan statws gwledydd datblygol, ac mae'r term "Ail Fyd" yn anghyffredin ar hyn o bryd. Ar y llaw arall, mae nifer o wledydd a gafodd eu hystyried yn flaenorol yn ddatblygol, megisPedwar Teigr Asia, nawr yn ddatblygedig ac yn rhan o'r Byd Cyntaf modern; er hyn, mewn rhai mapiau o'r rhaniad Gogledd-De, disgrifir y fath wledydd fel rhan o'r De, sy'n anghyson â'r diffiniad uchod. Hefyd, disgrifirtiriogaethau dibynnol y gwledydd datblygedig fel rhan o'r De, er eu bod yn rhan o'r byd datblygedig.[3]

Y Gogledd: gwledydd datblygedig

[golygu |golygu cod]
Prif:Gwlad ddatblygedig

Yn gyffredinol, cytunir sefydliadau megisBanc y Byd,y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a'rAsiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) bod y grŵp o wledydd datblygedig yn cynnwys y gwledydd a thiriogaethau canlynol (yn nhrefn yr wyddor):

     Gwledydd uchel eu hincwm ac economïau datblygedig yn ôl Banc y Byd a'r IMF

Yr Amerig

[golygu |golygu cod]

Asia

[golygu |golygu cod]

Canolbarth aGorllewin Ewrop

[golygu |golygu cod]

Oceania

[golygu |golygu cod]

Gweddill "y Gogledd"

[golygu |golygu cod]

Aelodau eraill yr G8

[golygu |golygu cod]

Y Balcanau

[golygu |golygu cod]

Dwyrain Ewrop

[golygu |golygu cod]

Llinell Brandt

[golygu |golygu cod]

Lluniad gweledol o'r rhaniad Gogledd-De ywLlinell Brandt; fe'i gynigiwyd gan yCanghellorAlmaenigWilly Brandt yn y1970au. Mae'n amgylchynu'r byd arledred o tua 30° G, yn pasio rhwngGogledd aChanolbarth America, i ogleddAffrica acIndia, ond yn gostwng i'r de er mwyn cynnwysAwstralia aSeland Newydd fel rhan o'r "Gogledd Cyfoethog".

Bwlch Datblygiad

[golygu |golygu cod]
Map o'r byd yn dynodi'rIndecs Datblygiad Dynol (2022-2024).     uchel (0.800–1)     canolig (0.500–0.799)     isel (0.300–0.499)     dim safle

Yn ddiweddar mae'r termBwlch Datblygiad wedi ymddangos i ddisgrifio'r rhaniad Gogledd-De. Mae'r cysyniad hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar gau'r bwlch amlwg sydd rhwng gwledydd cyfoethog (mwy economaidd ddatblygedig) a gwledydd tlawd (llai economaidd ddatblygedig). Ffordd dda o fesur ar ba ochr o'r bwlch y mae gwlad yw ei safle ar yrIndecs Datblygiad Dynol (IDD). Yr agosaf yw safle gwlad i 1.0, y mwyaf yw ei lefel datblygiad.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) S-Cool! - GCSE Geography Revision - Quicklearn. Adalwyd ar 19 Mai, 2008.
  2. (Saesneg) North–South divide. tiscali.co.uk. Adalwyd ar 27 Mai, 2008.
  3. Therien. J.P, (1999) Beyond the North-South Divide: the two tales of world poverty.Third World Quarterly. Cyfrol 20. Rhif 4. tud. 723-742

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Rhaniad_Gogledd-De&oldid=13865369"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp