Reservoir Dogs (1992) oeddffilm gyntaf ycyfarwyddwr a'r ysgrifennwrQuentin Tarantino. Portreada'r ffilm yr hyn sy'n digwydd cyn ac ar ôl i ladrad oemau fynd o'i le. Mae'r ffilm yn serennuHarvey Keitel,Steve Buscemi,Tim Roth,Michael Madsen,Quentin Tarantino,Eddie Bunker,Chris Penn aLawrence Tierney. Roedd gan Tarantino rôl fechan yn y ffilm. Amlyga'r ffilm nifer o themâu ac elfennau gweledol sydd wedi dod yn nodweddiadol o waith Tarantino: troseddau treisgar, cyfeiriadau atddiwylliant pop, deialog cofiadwy, iaith gref a llinnyn stori na sydd yn unionlin.
Ystyrir y ffilm yn glasur ym myd ffilmiau annibynnol ac yn lwyddiantcwlt. Enwyd y ffilm y "Ffilm Annibynnol Gorau Erioed" gan gylchgrawnEmpire. Derbyniodd y ffilm feriniadaethau canmoladwy a chanmolwyd y cast. Er na hyrwyddwyd y ffilm lawer pan gafodd ei rhyddhau, roedd y ffilm yn lwyddiant cymhedrol, gan wneud $2,832,029, ac felly'n ad-ennill y cyllid a wariwyd arni. Fodd bynnag, bu'r ffilm yn lwyddiant ysgubol yn yDeyrnas Unedig; gwnaeth £6.5 miliwn yn y swyddfa docynnau a chynyddodd ei phoblogrwydd yn sgîl llwyddiant y ffilmPulp Fiction, hefyd gan Tarantino. Yn aml, beirniedir y ffilm am y trais a'r rhegfeydd a gynhwysir, a dywedir i aelodau o'r gynulleidfa gerdded allan yn ystod golygfa oartaith.
Rhyddhawyd trac sain o'r enwReservoir Dogs: The Original Motion Picture Soundtrack i gyd-fynd â'r ffilm, sy'n cynnwys caneuon a ddefnyddiwyd yn y ffilm, yn bennaf caneuon o'r1970au. Yn 2006, rhyddhawyd gêm fideo a gafodd adolygiadau cymysg. Fel y ffilm, ystyriwyd y gêm yn ddadleuol oherwydd ei natur dreisgar.