Y defnydd obelydr-X i weld strwythurau caled, anodd eu gweld e.e. y tu fewn i bethau megis y corff neu rannau o'r corff ydyradiograffi. Radiograffydd yw'r person sy'n arbenigo yn y gwaith o greu llun o'r gwrthrych caled, megisasgwrn. Defnyddir 128 math o lwyd yn y lluniau, bellach, sy'n ansawdd gwell nag a fu yn y gorffennol. Defnyddir y rhain mewnanatomeg ddynol i astudio craciau neu doriadau yn yr esgyrn gan ym eddyg neu'rconsultant.
Defnyddir radiograffi yn y byddiwydiannol yn ogystal â'r bydmeddygol. Os yw'r gwrthrych a archwilir yn fyw (dynol neuanifail) yna perthyn i'r byd meddygol y mae; fel arall - i'r byd diwydiannol.
Yn 1895 y dechreuodd radiograffi, ar ôl iWilhelm Conrad Röntgen ddarganfod pelydr-X, neu o leiaf ddisgrifio eu priodweddau mewn cryn fanylder. Cyn hyn, 'doedd neb yn gwybod fawr ddim am y pelydrau hyn - ac felly'r symbol x, wrth gwrs. Un o'r defnyddiau cynharaf oedd fel cymorth i ffitio esgidiau! Fe'i defnyddiwyd yn gyffredin mewn ysbytai hefyd cyn sylweddoli ei beryglon. GalwoddMadam Curie i radiograffi gael ei ddefnyddio i ddeiagnosio cleifio y fyddin yn ystod yRhyfel Byd Cyntaf. Roedd y staff a oedd yn trafod pelydr-X yn cynnwysnyrsus, meddygon yn ogystal âffotograffwyr a pheirianwyr. O dipyn i beth tyfodd gwaith y radiograffydd i gynnwys fflworosgopi (fluoroscopy), a thopograffi cyfrifiadurol (1970s), mamograffi, uwchsain (ultrasound) (1970au), adelweddu cyseiniant magnetig (Magnetic Resonance Imaging).