Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Radio yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Plaid Cymru'n darlledu "Radio Wales" yn anghyfreithlon am y tro cyntaf yn y gogledd; Awst 1959,Geoff Charles.

Mae hanesradio yng Nghymru yn dechrau gyda'r darllediadau arbrofol a wnaethMarconi, ond bu'n rhaid aros yn hir i gael gwasanaethau radio yngNghymru ei hun. Erbyn heddiw mae sawl gorsaf radio lleol yn y wlad a cheir gwasanaeth cenedlaethol yn y ddwy iaith, sefBBC Radio Cymru yn yGymraeg aBBC Radio Wales ynSaesneg.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Darlledwyd y neges radio gyntaf yn y byd o bentrefLarnog,Bro Morgannwg. Ar13 Mai1897, gyrroddGuglielmo Marconi neges dros y môr oddi yno atYnys Echni. Ei chynnwys hi oedd"Are you ready?".

Ym mlynyddoedd cynnar radio bu rhaid i Gymru fodloni ar raglenni Saesneg yBBC a ddarlledid o Loegr. Cyndyn iawn oedd y BBC i ddarlledu yn Gymraeg.[1] Yn rannol yn sgîl ymgyrchu a phwysau gan aelodau gweithgarCylch Dewi, cynhyrchai gorsaf darlleduCaerdydd peth o'i deunydd ei hun yn y1920au, gan gynnwys ambell i gân a sgwrs Gymraeg. Ar orsaf 5WA, Caerdydd, y clywyd Cymraeg gyntaf erioed ar y radio ar 13 Chwefror, 1923 ar gân, ac arDdydd Gŵyl Ddewi 1923 ar lafar.[2] Ond ardal Caerdydd yn unig a glywai'r darllediadau Cymraeg hyn. Yr unig raglen Gymraeg a glywid ledled Cymru oedd y rhaglen a ddarlledwyd o1927 ymlaen o Ddulyn.[1] Roedd arweinyddiaeth y BBC yn cynnal polisi darlledu cenedlaethol Brydeinig a Seisnig ac yn gwrthod sefydlu gwasanaeth Cymreig na Chymraeg am hir amser. Wedi ymgyrchu dygn yng Nghymru caniatawyd i stiwdioBangor gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o1935 ymlaen. Darllediad ganDavid Lloyd George ar 8 Tachwedd 1923 oedd y darllediad Cymraeg cyntaf o stiwdio Bangor.[2]

Roedd Pwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru yn rhan bwysig o'r ymgyrchu ac erbyn 1937 llwyddwyd i sefydlu Rhanbarth Cymreig y BBC yn lle rhanbarth y Gorllewin ('Teyrnas y Brenin Arthur') a gynhwysai de-orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru.[1] Roedd cwynion gwrandawyr de-orllewin Lloegr am yr ychydig oriau o ddarlledu Cymraeg hefyd yn rhan o'r pwysau ar y BBC i sefydlu'r Rhanbarth Cymreig. Manteisiodd llenorion Cymru ar eu cyfle, gan gynnwysSaunders Lewis a sgriptiodd eiddrama radioBuchedd Garmon ar gyfer y BBC; cafodd ei darlledu yn 1937.

Logo cyfredolRadio Cymru

Ond pan ddechreuodd yr ail ryfel byd diddymwyd gwasanaeth Rhanbarth Cymru'r BBC. Bu raid iUndeb Cymru Fydd ymgyrchu dros adfer y darllediadau Cymraeg. Llwyddwyd i gael tair awr a hanner yr wythnos erbyn1940. 1940 oedd y flwyddyn y cynhaliwydEisteddfod Genedlaethol Cymru ar y radio.

Adferwyd gwasanaeth radio Rhanbarth Cymru yn1945 ond darlledai yn Saesneg yn bennaf. Darlledwyd peth cynnyrch Cymreig, gan gynnwys dramau radio gan lenorion Saesneg felDylan Thomas acEmyr Humphreys. Bu'n rhaid disgwyl hyd1977 cyn y cafwyd y gwasanaeth Cymraeg cyflawn cyntaf, sefRadio Cymru ar y BBC.Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd cyntaf Radio Cymru. Dim ond yn ystod y bore y darlledwyd rhaglenni ar y dechrau, ond erbyn heddiw mae rhaglenni Cymraeg yn dechrau am 5 o'r gloch y bore ac yn terfynu am 1 o'r gloch y bore wedyn. Mae'n bosib clywed y rhaglenni hyn ar y we, hefyd.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.2John Davies,Hanes Cymru, tt 542, 566 (The Penguin Press, 1990)
  2. 2.02.1Gwyn Jenkins, Andy Misell, a Tegwyn Jones,Llyfr y Ganrif, tud. 101 (y Lolfa, 1999)

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Cyffredinol
Rhanbarthau a lleoliadau
Tirffurfiau
Bywyd gwyllt
Economi
Demograffeg
Cymdeithas
Diwylliant
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Radio_yng_Nghymru&oldid=12142117"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp