Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Raúl Alfonsín

Oddi ar Wicipedia
Raúl Alfonsín
Raúl Alfonsín ar ddiwrnod ei urddo'n arlywydd, 10 Rhagfyr 1983.
Ganwyd12 Mawrth 1927 Edit this on Wikidata
Chascomús Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mawrth 2009 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Addysgeiriolwr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Buenos Aires
  • Universidad Nacional de La Plata Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr,gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Ariannin, Aelod o Siambr Dirprwyon yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUndeb Sifil a Radical Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Coler Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd o'rAriannin oeddRaúl Alfonsín (12 Mawrth192731 Mawrth2009) a wasanaethodd ynArlywydd yr Ariannin o 1983 i 1989, yn arweinydd yr Undeb Sifig Radicalaidd (Unión Cívica Radical, UCR).

Ganed ef yn Chascomús, ynNhalaith Buenos Aires, oddeutu 100 km i dde'r brifddinasBuenos Aires. Roedd ei dad o drasAlisaidd acAlmaenig, a'i fam yn ferch iGymro ac ynyswraig o'rFalklands. Mynychodd academi filwrol General San Martin cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Genedlaethol La Plata. Wedi iddo dderbyn ei radd ym 1950, dychwelodd i'w dref enedigol i sefydlu'r papur newyddEl Imparcial. Wedi gyrfa o ryw ddeng mlynedd mewn gwleidyddiaeth daleithiol, fe'i etholwyd i'r Gyngres Genedlaethol ym 1963 nes cwymp llywodraeth yr UCR ym 1966.[1]

Yn ystodcyfnod y jwnta filwrol (1976–83), ymgyrchodd Alfonsín yn erbyn camdriniaethau hawliau dynol gan y llywodraeth. Cyhoeddodd y llyfrLa cuestión Argentina (1981) a chyd-sefydlodd y Cynulliad Parhaol dros Hawliau Dynol. Yn sgil methiant yr Ariannin ynRhyfel y Falklands (1982), cafodd awdurdod y jwnta ei danseilio a chynhaliwyd etholiadau rhydd ym 1983. Bu Alfonsín, ymgeisydd yr UCR, yn drech nag Ítalo Argentino Luder, ymgeisydd yPartido Justicialista, yn yr etholiad arlywyddol ar 30 Hydref, a chafodd ei urddo'n arlywydd yr Ariannin ar 10 Rhagfyr 1983.

Wynebodd Alfonsín nifer o broblemau, gan gynnwyschwyddiant,dyled wladol, anghydfodau llafur, a gwrthwynebiad y lluoedd arfog. Er gwaethaf, ymdrechodd i gadw at y drefn ddemocrataidd ac i erlyn swyddogion gwleidyddol a milwrol y jwnta am droseddau a gyflawnwyd yn ystody Rhyfel Brwnt. Fodd bynnag, yn sgil sawlmiwtini ym 1987–88, penderfynodd Alfonsín bardynu'r mwyafrif o'r uwch-swyddogion a gafwyd yn euog. Cyflwynodd Cynllun Austral ym 1985 i geisio sefydlogi'r economi, a sicrhaodd benthyciadau oddi ary Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). Erbyn 1989 bu'r economi yn dioddefgorchwyddiant a dibrisiad y peso, arian cyfred yr Ariannin. Ymddiswyddodd Alfonsín chwe mis cyn diwedd ei dymor arlywyddol, a fe'i olynwyd yn y swydd gan y PeronyddCarlos Menem.

Wedi diwedd ei arlywyddiaeth, parhaodd Alfonsín yn ddylanwadol ym myd gwleidyddiaeth. Ffurfioff y Sefydliad Archentaidd dros Ryddid Gwybodaeth ym 1992, a gwasanaethodd yn aelod o Gomisiwn Heddwch De America ac yn is-lywyddy Gymdeithas Sosialaidd Ryngwladol. Fe'i etholwyd yn seneddwr dros Dalaith Buenos Aires yn 2001, ond ymddiswyddodd ar ôl un flwyddyn i ganolbwyntio ar ailadeiladu'r UCR, a gafodd ei effeithio gan gwymp llywodraethFernando de la Rúa.[1]

Bu farw Raúl Alfonsín yn Buenos Aires yn 82 oed oganser yr ysgyfaint.[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1(Saesneg) Raúl Alfonsín. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Ionawr 2026.
  2. (Saesneg) Phil Gunson, "Obituary: Raúl Alfonsín",The Guardian (2 Ebrill 2009). Archifwyd o'rdudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Ionawr 2026.
Taleithiau Unedig Río de la Plata
(1826–31)
Baner Arlywydd yr Ariannin
Conffederasiwn yr Ariannin
(1854–61)
Y cyfnod rhyddfrydol
(1862–74)
Cyfnod yPartido Autonomista Nacional
(1874–1916)
Y cyfnod radicalaidd,la Década Infame a Chwyldro '43
(1916–1946)
Cyfnod Perón
(1946–76)
Jwnta filwrol
(1976–83)
Yr adferiad democrataidd
(ers 1983)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Raúl_Alfonsín&oldid=14497349"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp