Quintus Sertorius | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 123CC ![]() Norcia ![]() |
Bu farw | Unknown ![]() Huesca, Osca ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig ![]() |
Swydd | llywodraethwr Rhufeinig,Praetor, quaestor ![]() |
Plaid Wleidyddol | populares ![]() |
Tad | Unknown ![]() |
Mam | Unknown ![]() |
Gwobr/au | Grass Crown ![]() |
Cadfridog a gwleidyddRhufeinig oeddQuintus Sertorius (tua123 CC -72 CC).
Ganed ef ynNursia, ac wedi ennill slyw ynRhufain fel areithydd a chyfreithiwr, dechreuodd yrfa filwrol. Ymladdodd ymMrwydr Arausio danQuintus Servilius Caepio, yna gwasanaethodd am rai blynyddoedd danGaius Marius, gan ymladd ymMrwydr Aquae Sextiae pan orchfygodd Marius fyddin enfawr yTeutones. Bu'n gwasanaethu ynSbaen fel tribwn milwrol, yna ynGallia Cisalpina felquaestor. Yn y cyfnod yma cafodd anaf a'i gwnaeth yn ddall yn un llygad.
Wedi dychwelyd i Rufain, ceisiodd ddod yndribwn, ond gwrthwynebwyd hyn ganLucius Cornelius Sulla. Wedi i Sulla orfodi Marius i ffoi o Rufain, ac yna gadael ei hun i ymladd yn erbynMithridates VI, brenin Pontus, bu ymryson yn Rhufain rhwng yrOptimates, dan y conswlGnaeus Octavius, a'rPopulares, dan y conswlLucius Cornelius Cinna. Cefnogodd Sertorius Cinna a'r Populares, ac er nad oedd yn edmygydd mawr o Marius, cytunodd iddo gael dychwelyd i Rufain.
Dychwelodd Sulla o'r dwyrain yn83 CC, a bu raid i Sertorius ffoi i Sbaen. Bu'n ymladd yn erbyn cefnogwyr Sulla yn Sbaen a Gogledd Affrica, lle cipiodd ddinas Tingis (Tangier heddiw). Gyrrodd gadfridog Sulla,Q. Caecilius Metellus Pius, allan oLusitania. Roedd Sertorius yn gadfridog galluog dros ben, a chanddo ddylanwad mawr dros frodorion Sbaen. Rhoddodd un ohonynt ewig gwyn iddo, a dywedid fod yr ewig yma yn trosglwyddo iddo negeseuon gan y dduwiesDiana.
Yn77 CC daethMarcus Perperna Vento o Rufain gyda byddin i'w gynorthwyo, a'r un flwyddyn daethGnaeus Pompeius Magnus o Rufain i gynorthwyo Caecilius Metellus. Enillodd Sertorius nifer o fuddugoliathau dros Metellus a Pompeius. Gwnaeth gytundeb a môrladronCilicia a dechreuodd drafodaethau gydaMithridates VI, brenin Pontus. Fodd bynnag llofruddiwyd ef mewn gwledd gan Perpenna Vento yn72 CC. Hebddo ef, gorchfygwyd Perpenna gan Pompeius a rhoddwyd diwedd ar y rhyfel.