Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Quintillus

Oddi ar Wicipedia
Quintillus
Ganwyd212 Edit this on Wikidata
Sirmium Edit this on Wikidata
Bu farw270 Edit this on Wikidata
Aquileia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain Edit this on Wikidata
PriodUnknown Edit this on Wikidata
PlantUnknown, Unknown Edit this on Wikidata

Marcus Aurelius Claudius Quintillus (bu farw270) oeddymerawdwr Rhufain am gyfnod yn ystod y flwyddyn 270.

Roedd Quintillus yn frawd i’r ymerawdwrClaudius II. Ychydig a wyddir am Quintillus: ni wyddir dyddiad ei eni, union ddyddiad ei farwolaeth, enew ei wraig nag enwau ei ddau blentyn. Pan fu farw Claudius II yn 270, cyhoeddwyd Quintillus yn ymerawdwr, er y dywedir fod Claudius cyn marw wedi enwiAurelian fel ei olynydd. Derbyniwyd Quintillus yn ymerawdwr gan ySenedd.

Wedi dod yn ymerawdwr aeth Quintillus ar ei union IAquileia a defnyddiodd y ddinad hon fel canolbwynt amddiffynfeydd gogledd yr Eidal. Roedd yn ofni ymosodiad ganYmerodraeth y Galiaid oedd dan lywodraethVictorinus.

Roedd Aurelian yn gadfridog y llengoedd Rhufeinig yn nhaleithiau yBalcanau ac yn wynebu ymosodiadau gan lwythiAlmaenaidd oedd yn ceisio croesiAfon Donaw. Cafodd fuddugoliaeth bwysig drostynt, a chyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan lengoeddPannonia.

Pan glywodd Quintillus fod byddin Aurelian ar ei ffordd I Rufain, penderfynodd aros yn Aquileia yn hytrach na mynd i Rufain ei hun. Wrth weld fod byddin Aurelian yn llawer cryfach na’i fyddin ei hun, penderfynodd Quintillus ladd ei hun er mwyn osgoi rhyfel cartref, ar ôl teyrnasiad o 77 diwrnod.

Rhagflaenydd:
Claudius II
Ymerawdwr Rhufain
270
Olynydd:
Aurelian
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Quintillus&oldid=13700052"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp