Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Pythia

Oddi ar Wicipedia
Pythia
Enghraifft o:swydd, hen broffesiwn Edit this on Wikidata
Mathoffeiriad Groeg yr Henfyd, proffwyd, offeiriades Edit this on Wikidata
Rhan oOracl Delffi Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0dzm1 edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

YPythia oedd yr offeiriades oedd yn rhoi y proffwydioliaethau yn oraclDelffi yngNgroeg yr Henfyd. Sefydlwyd oracl Deffi tua'r 8g cyn Crist, a chofnodir y broffwydoliaeth olaf yn393 OC., pan gaewyd y temlau paganaidd gan yr ymerawdwrTheodosius I. Roedd oracl Delffi yn enwog trwy wlad Groeg a thu hwnt. Credid fod y duwApollo yn siarad trwy'r Pythia.

Yn wreiddiol merch ieuanc oedd y Pythia, ond erbyn y cyfnod clasurol, hen wraig oedd hi, ond yn gwisgo gwisg merch ieuanc. Byddai'n rhoi'r broffwydoliaeth yn eistedd ar bair, gyda mŵg o'r pair o'i chwmpas. Pan oedd yr oracl ar ei anterth, roedd tair gwraig yn gwneud y gwaith yma, dwy yn cymeryd eu tro ar y pair ac un arall wrth gefn.

Byddai'r sawl oedd yn dymuno ymgynghori a'r oracl yn dynesu ar hyd y Ffordd Sanctaidd, gan ddwyngafr i'w haberthu ac arian i'r oracl.

Yn aml roedd union ystyr proffwydoliaethau'r oracl yn aneglur i'r ymholwr. Rhai enghreiffiau o'r proffwydoliaethau oedd:

  • Yn 546 CC. roeddCroesus, breninLydia yn dymuno ymosod arYmerodraeth Persia. Cyn gwneud hynny, gyrrodd gennad i Delphi i ofyn barn yr oracl. Ateb yr oracl oedd, pe croesai CroesusAfon Halys, byddai'n dinistrio ymerodraeth fawr. Cymerodd Croesus hyn fel arwydd i fynd ymlaen a'i ymgyrch, ond gorchfygwyd ef ganCyrus Fawr, brenin Persia. Gwireddwyd geiriau'r oracl; ond yr ymerodraeth a ddinistriwyd gan Croesus oedd ei ymerodraeth ef ei hun.
  • Pan ymosododdYmerodraeth Persia ar wlad Groeg yn480 CC. gofynnodd ySpartiaid am broffwydoliaeth. Ateb y Pythia oedd y byddai un o ddau beth yn digwydd: un ai byddai Sparta'n cael ei dinistrio gan y Persiaid, neu byddai'n galaru am un o'i brenhinoedd. LladdwydLeonidas, brenin Sparta, ymMrwydr Thermopylae.
  • Yn ystod yr un rhyfel, gofynnodd yrAtheniaid am broffwydoliaeth. Ateb cyntaf y Pythia oedd dweud wrthynt am ffoi ar unwaith rhag y dinistr oedd ar ddyfod. Cynghorwyd yr Atheniaid gan yr offeriaid i ofyn i'r Pythia eto, a'r ateb y tro hwn oedd, er y byddai popeth arall yn cael ei ddinistrio, eto fe safai'r "muriau pren". Bu dadlau yn Athen ynghylch ystyr yr ymdrodd. DadleuaiThemistocles mai'r llynges oedd y "muriau pren", a bod yr oracl yn dweud wrthynt am ymddiried yn y llynges i achub Athen. Gwireddwyd y broffwydoliaeth pan orchfygwyd y llynges Bersaidd ymMrwydr Salamis.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Pythia&oldid=14313023"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp