Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Priordy Ewenni

Oddi ar Wicipedia
Priordy Ewenni
Mathpriordy, safle eglwysig amddiffynedig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.488464°N 3.568689°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM190 Edit this on Wikidata

Mae adfeilionPriordy Ewenni yn gorwedd ger pentrefEwenni,Bro Morgannwg,Cymru.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Mae tystiolaeth a geir o'r meini cofeb cyn-Normanaidd sydd i'w gweld yno heddiw yn awgrymu'n gryf fod sefydliad eglwysig Cymreig yn bodoli ar y safle cyn i'r Normaniaid gyrraedd Cymru. Un o'r Normaniaid hynny oeddWilliam de Londres, arglwyddCastell Ogwr. Rhoddodd eglwysSant Fihangel, a oedd yn sefyll ar y safle, i AbatyCaerloyw.

Yn1141 codwyd priordyBenedictaidd yno gyda phrior a deuddeg mynach. Graddol fu ei dyfiant. MaeGerallt Gymro yn cyfeirio ato fel "cell fechan" ar eidaith yn1188, ar ei ffordd oLandaf iAbaty Margam. Yn1291 ei werth oedd £56 yn unig. Pan farwodd allan teulu de Londres, unig noddwyr y priordy, yn y14g suddodd y priordy mewn tlodi.

Erbyn iddo gael eididdymu yn1535 dim ond £59 oedd ei werth. Daeth yn eiddo iEdward Carne, uchelwr lleol a arosodd yn dryw i'rEglwys Gatholig ac a fyddai yn ddiweddarach yn mynd iRufain ar ranMari Tudur i gyflwyno i'r Pab ymostyngiad ei theyrnas.

Croesfa Priordy Ewenni, dyfrlliw (tua 1797) ganJ.M.W. Turner

Yr adeilad

[golygu |golygu cod]

Ychwanegwyd adeiladau'r priordy i'r eglwys a fodolai eisoes. Codwyd mur amddiffynnol o gwmpas y safle, a oedd braidd yn bell o gysgod amddiffynnol Castell Ogwr.

Tua'r flwyddyn1800 datgymalwyd rhannau sylweddol o'r adeiladau preswyliol a dim ond y rhannau cysylltiedig â'r eglwys ei hun sydd ar y safle heddiw.

Cadwraeth

[golygu |golygu cod]

Mae'r hen eglwys a gweddillion y priordy gerllaw bellach yng ngofalCadw ac ar agor i'r cyhoedd.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Rod Cooper,Abbeys and Priories of Wales (Caerdydd, 1995)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Priordy_Ewenni&oldid=11816875"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp