Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Priodas gyfunryw

Oddi ar Wicipedia
Baner LGBT

Priodas rhwng dau berson o'r unrhyw a/neuhunaniaeth rhyw ydypriodas gyfunryw (a elwir hefyd ynpriodas un-rhyw aphriodas hoyw). Cyfeirir weithiau at gydnabyddiaeth gyfreithiol o briodasau cyfunryw neu'r posibilrwydd o gynnal priodas gyfunryw felcydraddoldeb priodas neubriodas gyfartal, yn benodol gan gefnogwyr.[1][2][3][4][5][6]

Daeth y deddfau modern cyntaf am briodasau cyfunryw i rym yn ystod y degawd cyntaf o'r 21g. Ers mis Mai 2013, mae 18 o wledydd (Yr Ariannin,Gwlad Belg,Brasil,Canada,Denmarc,[nb 1]Ffrainc,Gwlad yr Iâ,Yr Iseldiroedd,[nb 2],Lwcsembwrg,Norwy,Portiwgal,Sbaen,De Affrica,Sweden,Cymru a Lloegr,Seland Newydd[nb 3][7][8],Wrwgwái,Yr Alban a sawl awdurdodaeth is-genedlaethol (rhannau oFecsico a'rUnol Daleithiau), yn caniatáu cyplau cyfunryw i briodi. Mae mesurau sy'n amlinellu cydnabyddiaeth gyfreithlon o briodasau cyfunryw wedi cael eu cyflwyno, dan ystyriaeth, neu wedi eu llwyddo o leiaf un tŷ deddfwriaethol ynAndorra, yFfindir,Yr Almaen,Iwerddon,Nepal aTaiwan, yn ogystal â rhannau oAwstralia,Mecsico, a'rUnol Daleithiau.

Mae'r cyflwyniad o ddeddfau priodasau cyfunryw yn amrywio rhwng awdurdodaethau, yn cael eu cyflawni gan newid deddfwriaethol i gyfreithiau priodi, dyfarniad llys sy'n seiliedig ar warantau cyfansoddiadol o gydraddoldeb, neu gan bleidlais (drwyfenter bleidlais neurefferendwm). Mae cydnabod priodasau cyfunryw yn fater gwleidyddol, cymdeithasolhawliau dynol ahawliau sifil, yn ogystal â bod yn fater crefyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd, ac mae trafodaethau yn parhau i godi ynghylch priodasau cyfunryw, yr angen i ddal statws gwahanol (uniad sifil), neu gael gwrthod o gydnabyddiaeth hawliau o'r fath. Ystyrir y gallu i ganiatáu i gyplau cyfunryw i briodi'n gyfreithlon yn un o'rhawliau LHDT pwysicaf.

Gellir cynnal priodasau cyfunryw mewnseremoni sifil neu seciwlar neu mewn sefyllfa grefyddol. Mae crefyddau amrywiol ar draws y byd yn cefnogi priodasau cyfunryw; er enghraifft:Crynwyr,yr Eglwys Esgobaethol, yrEglwys Gymunedol Fetropolitan,Eglwys Unedig Crist,Eglwys Unedig Canada,Bwdhaeth yn Awstralia, IddewonDiwygiedig aCheidwadol,Wiciaid aPhaganiaid,Derwyddon,Cyfanfydwyr Undodaidd, a chrefyddauAmericanwyr Brodorol sydd â thraddodiaddau-enaid, yn ogystal â gwahanol grwpiau Cristnogol, Mwslimaidd, Hindŵ, a Bwdhaidd blaengar a modern, a grwpiau Iddewig ac amryw fân grefyddau ac enwadau eraill.

Mae astudiaethau a gynhaliwyd mewn nifer o wledydd yn dangos bod cefnogaeth i gydnabyddiaeth gyfreithiol ar gyfer priodasau cyfrunryw yn cynyddu gyda lefelau uwch o addysg a bod y gefnogaeth yn gryfach ymhlith pobl iau. Yn ogystal, mae polau piniwn mewn gwahanol wledydd yn dangos bod cefnogaeth gynyddol i gydnabyddiaeth gyfreithiol am briodasau cyfunryw ar draws bob hil, ethnigrwydd, oed, crefydd, cysylltiadau gwleidyddol, statws economaidd-gymdeithasol, ac ati.[9][10]

Crynodeb

[golygu |golygu cod]
     Priodi ar gael i gyplau cyfunryw     Yr Uchel Lys wedi pleidleisio o blaid, neu'r Llywodraeth wedi cyhoeddi'r bwriad o gyfreithloni priodi cyfrunryw, ond heb ei weithredu eto     Wedi'u cydnabod pan berfformir ef mewn rhai awdurdodaethau     Partneriaeth sifil     Ni chydnabyddir priodi cyfunryw yn gyfreithlon

Mae cyflwyno priodas un rhyw wedi amrywio yn ôl awdurdodaeth, yn deillio o newidiadau deddfwriaethol i ddeddfau priodas, heriau llys sy'n seiliedig ar warantau cyfansoddiadol o gydraddoldeb, neu gyfreithloni gan bleidleiswyr drwy refferenda a mentrau pleidleisio. Mae cydnabyddiaeth o briodasau cyfunryw yn fater hawliau sifil, cydraddoldeb, hawliau dynol, gwleidyddol, cymdeithasol, moesol, a chrefyddol mewn llawer o wledydd. Mae dadleuon wedi bod yn codi ynghylch y cwestiwn a ddylai cyplau o'r un rhyw gael eu caniatáu i briodi, angen defnyddio statws gwahanol (fel undeb sifil, sydd naill ai'n rhoi'r un hawliau cyfartal â phriodas neu hawliau cyfyngedig o gymharu â phriodas), neu ddim yn cael unrhyw hawliau o'r fath.[11][12][13] Gall priodas cyfunryw ddarparu trethdalwyr LHDT gyda gwasanaethau'r llywodraeth a gwneud gofynion ariannol arnynt sy'n debyg i'r rhai a roddir i ac sy'n ofynnol o gyplau priod gwryw-benyw. Mae priodas cyfunryw hefyd yn rhoi amddiffyniadau cyfreithiol fel hawliau etifeddiaeth ac ymweliadau ysbyty.[14]

Mae pump ar hugain (yr Almaen,yr Ariannin,Awstralia,Awstria,Gwlad Belg,Brasil,Canada,Colombia,De Affrica,Denmarc,y Deyrnas Unedig,y Ffindir,Ffrainc,Gweriniaeth Iwerddon,Gwlad yr Iâ,yr Iseldiroedd,[nb 2]Lwcsembwrg,Malta,Norwy,Portiwgal,Sbaen,Seland Newydd,[nb 3]Sweden,Unol Daleithiau, aUruguay) o wledydd yn caniatáu i gyplau o'r un rhyw i briodi ar draws y wlad. Cynhelir priodasau cyfunryw hefyd mewn rhannau o'rMecsico. Mae awdurdodaethau sydd yn cydnabod priodasau cyfunryw pan iddynt gael eu perfformio'n gyfreithlon mewn rhywle arall ond sy ddim yn eu perfformio nhw eu hunain yn cynnwysIsrael,Aruba, Curaçao a Sint Maarten, aMecsico.[15]

Mae rhai o dadansoddwyr yn datgan bod lles ariannol, seicolegol a chorfforol yn gwella trwy briodas, a bod plant o gyplau cyfunryw yn elwa o gael eu codi gan ddau riant mewn undeb a gydnabyddir yn gyfreithiol a gefnogir gan sefydliadau'r gymdeithas[16][17][18][19][20][21][22].

Nodiadau

[golygu |golygu cod]
  1. Nid yn Ynysoedd Ffaro a'r Ynys Las.
  2. 2.02.1Nid yn Aruba, Curaçao a St Maarten.
  3. 3.03.1Nid yn Tokelau, Niue nac yn Ynysoedd Cook

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Pratt, Patricia (29 May 2012)."Albany area real estate and the Marriage Equality Act". Albany, NY. Albany Examiner. Cyrchwyd25 December 2012.On July 24, 2011 the Marriage Equality Act became a law in New York State forever changing the state's legal view of what a married couple is.
  2. Kefalas, Chrysovalantis P. (28 October 2012). "Marriage equality and the golden rule".The Washington Post.|access-date= requires|url= (help)
  3. "Vote on Illinois marriage equality bill coming in January: sponsors".Chicago Phoenix. 13 December 2012. Cyrchwyd23 December 2012.
  4. "Commission endorses marriage and adoption equality". Human Right Commission New Zealand. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-12-02. Cyrchwyd23 December 2012.
  5. Mulholland, Helene (27 September 2012)."Ed Miliband calls for gay marriage equality".The Guardian. London. Cyrchwyd23 December 2012.
  6. Ring, Trudy (December 2012). "Newt Gingrich: Marriage Equality Inevitable, OK". The Advocate. http://www.advocate.com/politics/marriage-equality/2012/12/20/newt-gingrich-accepts-marriage-equality-inevitable. "He [Newt Gingrich] noted to HuffPo that he not only has a lesbian half-sister, LGBT rights activist Candace Gingrich, but has gay friends who've gotten married in Iowa, where their unions are legal. Public opinion has shifted in favor of marriage equality, he said, and the Republican Party could end up on the wrong side of history if it continues to go against the tide."
  7. "Desde el 1° de agosto se podrán celebrar matrimonios gay".El Pais (yn Spanish). 6 May 2013. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2013-06-29. Cyrchwyd2013-06-15.Unknown parameter|trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "August 19 wedding date for same-sex couples".3 News NZ. 23 April 2013. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2014-07-22. Cyrchwyd2013-06-15.
  9. Gweler
  10. Shapiro, Lila (8 June 2012)."Same-Sex Marriage Support Growing In New Poll, Experts Say Personal Knowledge Of Gays May Play Role".Huffington Post. Cyrchwyd28 September 2012.
  11. Taylor, Pamela K. (31 July 2009)."Marriage: Both Civil and Religious".The Washington Post. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-05-24. Cyrchwyd20 September 2012.
  12. Smith, Susan K. (30 July 2009)."Marriage a Civil Right, not Sacred Rite".The Washington Post. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-10-03. Cyrchwyd20 September 2012.
  13. "Decision in Perry v. Schwarzenegger"(PDF). Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 2013-03-16. Cyrchwyd6 August 2010.
  14. Handbook of Gay, Lesbian, Bisexual, and Transgender Administration and Policy — Page 13, Wallace Swan - 2004
  15. "Australian trans passport victory".Pink News. London. 5 October 2007. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd28 December 2011.
  16. American Psychological Association (2004)."Resolution on Sexual Orientation and Marriage"(PDF). Cyrchwyd10 November 2010.
  17. American Psychiatric Association (2005)."Support of Legal Recognition of Same-Sex Civil Marriage"(PDF). Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 2008-05-28. Cyrchwyd10 November 2010.
  18. American Psychoanalytic Association."Position Paper On Gay Marriage". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-05-10. Cyrchwyd10 November 2010.
  19. American Sociological Association."American Sociological Association Member Resolution on Proposed U.S. Constitutional Amendment Regarding Marriage". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2007-08-12. Cyrchwyd10 November 2010.
  20. "Brief of the American Psychological Association, The California Psychological Association, the American Psychiatric Association, and the American Association for Marriage and Family Therapy as amici curiae in support of plaintiff-appellees – Appeal from United States District Court for the Northern District of California Civil Case No. 09-CV-2292 VRW (Honorable Vaughn R. Walker)"(PDF). Cyrchwyd5 November 2010.
  21. "Marriage of Same-Sex Couples  – 2006 Position Statement"(PDF).Canadian Psychological Association. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 2012-07-07. Cyrchwyd28 September 2012.
  22. Pawelski JG, Perrin EC, Foy JM,et al. (July 2006). "The effects of marriage, civil union, and domestic partnership laws on the health and well-being of children". Pediatrics 118 (1): 349–64. doi:10.1542/peds.2006-1279. PMID 16818585. available online:http://pediatrics.aappublications.org/cgi/content/full/118/1/349
PynciauLHDT
Cyfunrywioldeb
Deurywioldeb
Trawsrywedd
Pynciau eraill
Hanes
Diwylliant
Gwleidyddiaeth, cymdeithas a'r gyfraith
Meddygaeth
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Priodas_gyfunryw&oldid=13767394"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp