Prifysgol ymchwil gyhoeddus a leolir ynGöttingen, yn nhalaithNiedersachsen,yr Almaen, ywPrifysgol Göttingen, yn llawnPrifysgol Georg August Göttingen (Almaeneg:Georg-August-Universität Göttingen, a elwir yn anffurfiolGeorgia Augusta). Hon yw'r brifysgol hynaf yn Niedersachsen, a phrifysgol fwyaf y dalaith honno yn nhermau'r nifer o fyfyrwyr. Cydnabyddir yn un o brifysgolion enwocaf ac uchaf ei bri yn Ewrop, ac yn gynrychiolydd o sefydliadau deallusol hanesyddol yr Almaen. Mae ganddi ryw 31,600 o fyfyrwyr.
Fe'i sefydlwyd ym 1734 ganSiôr II, Brenin Prydain Fawr ac Etholydd Hanofer, gyda'r nod o hyrwyddo syniadau a delfrydau'rOleuedigaeth, ac agorodd i fyfyrwyr ym 1737. Yn niwedd y 18g, dyma oedd canolfan y "Göttinger Hain", cylch o feirdd natur a serch yn yr oes sentimental a ragflaenaiRhamantiaeth. Can mlynedd wedi iddi agor ei drysau, ym 1837, trawyd ergyd i enw'r brifysgol pan gafodd saith o athrawon eu diswyddo am resymau gwleidyddol.[1]
Yn ôl arddangosfa swyddogol a gynhelwyd yn 2002, bu 44 o enillwyrGwobrau Nobel yn gysylltiedig â Phrifysgol Göttingen, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr, aelodau'r staff, ac ymchwilwyr, yn eu plith y ffisegwyrMax Born,James Franck,Werner Heisenberg, aMax von Laue.[2][3]
Mae Prifysgol Göttingen yn aelod o U15 (grŵp o brif brifysgolion ymchwil yr Almaen) aGrŵp Coimbra (prif prifysgolion ymchwil Ewrop), ac ynghynt fe'i cefnogwyd gan Fenter Rhagoriaeth Prifysgolion yr Almaen. Mae ganddi gysylltiadau agos â sefydliadau ymchwil eraill yn Göttingen, gan gynnwys Cymdeithas Max Planck a Chymdeithas Leibniz. MaeNiedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen—llyfrgell y brifysgol a llyfrgell ganolog Niedersachsen—yn un o lyfrgelloedd mwyaf yr Almaen, a chanddi 9 miliwn o eitemau, ac yn un o lyfrgelloedd ymchwil pwysicaf y byd.