![]() | |
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, sefydliad addysg uwch, cyhoeddwr mynediad agored, sefydliad addysgol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Streatham Campus, University of Exeter, Cornwall Campus, St Luke's Campus ![]() |
Sir | Dinas Caerwysg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 50.7361°N 3.535°W ![]() |
Cod post | EX4 4QJ ![]() |
![]() | |
Prifysgol Caerwysg | |
---|---|
University of Exeter | |
![]() | |
Arfbais Prifysgol Caerwysg | |
Arwyddair | Lucem sequimur |
Arwyddair ynGymraeg | Dilynwn y goleuni |
Sefydlwyd | 1955 -siarter brenhinol (1922 - Coleg Prifysgol) |
Math | Cyhoeddus |
Gwaddol | £29.1 miliwn[1] |
Canghellor | Floella Benjamin OBE, DLitt (Hon) |
Is-lywydd | Professor Steve Smith |
Is-ganghellor | Sir Steve Smith |
Pennaeth | Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedigex officio |
Myfyrwyr | 17,950(2010/11)[2] |
Israddedigion | 13,335(2010/11)[2] |
Ôlraddedigion | 4,615(2010/11)[2] |
Lleoliad | Caerwysg,Dyfnaint Tremough,Cernyw, ![]() |
Campws | Streatham - 350 acer[3] Tremough - 70 acer[4] |
Cyn-enwau | Coleg Prifysgol Caerwysg |
Lliwiau | Gwyrdd a gwyn |
Tadogaethau | 1994 Group Association of Commonwealth Universities |
![]() | |
Gwefan | http://www.exeter.ac.uk |
Prifysgol yngNghaerwysg,Dyfnaint,De-orllewin Lloegr, ydyPrifysgol Caerwysg (Saesneg:University of Exeter). Lleolir y rhan fwyaf o'i gweithgareddau yn ninas Caerwysg, lle mae'n brif sefydliadaddysg uwch yr ardal. Mae'n aelod o'r 'Grŵp 1994', sef rhwydwaith o brifysgolion yng ngwledydd Prydain a gogledd Iwerddon sy'n gwneud ymchwil dwys.
Mae gan Brifysgol Caerwysg dri champws, sef:Streatham,St Luke's yng Nghaerwysg, aTremough yngNghernyw. Caiff campws Tremough ei gynnal ar y cyd gydaColeg Prifysgol Falmouth dan fenterCombined Universities in Cornwall (CUC).
Maearfbais y brifysgol yn symbol o gysylltiadau hanesyddol y brifysgol gyda'i lleoliad. Daw'r castell aur trionglog gyda'i thri thŵr o arfbais Caerwysg, a chredir iddi gynyrchioliCastell Rougemont fel yr awgryma'r cefndir coch. Daw'r 15 Besant aur o amgylch ymyl yr arfbais o arfbaisCernyw, tra daw'r groes werdd ar y cefndir gwyn o arfbais Cyngor DinasPlymouth. Symbol o addysg yw'r llyfr gydag ymylon aur a'r arwyddairLladin"lucem sequimur" ("dilynwn y goleuni").
Dechreuodd addysg brifysgol yng Nghaerwysg ym 1922, pan drowydColeg Goffa Brenhinol Albert ynGoleg Prifysgol De-orllewin Lloegr (University College of the South West of England), a chafodd y coleg ei gynnwys ar restr yr athrofeydd a oedd yn gymwys i dderbyn arian gan yPwyllgor Grantiau Prifysgol. Sefydlwyd y coleg fel athrofa diriogaethol, gan wneud addysg prifysgol ar gael yn weddol leol ar gyfer myfyrwyr oDdyfnaint, Cernyw,Dorset aGwlad yr Haf. Fel y bu'r arfer ar gyfer athrofeydd prifysgol newydd yn ne Lloegr yn y19feg ganrif hwyr a'r20g, roedd y brifysgol yn paratori myfyrwyr ar gyfergraddau allanolPrifysgol Llundain. Pan dyfodd y brifysgol ymhellach yn ystod yr 1930au, enillodd fwy o hunanreolaeth, ond cafodd ei hannibynniaeth lwyr ei ohirio gan ddyfodiad yrAil Ryfel Byd. Derbyniodd y brifysgol eisiarter frenhinol, gan ddod yn brifysgol annibynnol (Prifysgol Caerwysg) ym mis Rhagfyr 1955. Yn y cyfnod wedi'r rhyfel, daeth Prifysgol Caerwysg yn athrofa cenedlaethol, mewn modd tebyg i nifer o brifysgolion eraill y Deyrnas Unedig, gan ddenu myfyrwyr ledled de Prydain. Fel prifysgol sy'n gwneud ymchwil dwys, mae erbyn hyn yn denu nifer fawr o ddigyblion o dramor. Ond, mae gweithgareddau lleol yn parhau, er enghraifft drwy addysguallfurol yn Nyfnaint a Chernyw, a sefydliad Athrofa Astudiaethau Cernyweg ynTruro.
1955–1972 | Mary Cavendish, Duges Dyfnaint |
1972–1981 | Is-iarll Amory of Tiverton KG, PC, GCMG, TD, DL |
1982–1998 | SyrRex Richards MA, DPhil, DSc, FRS, FRSC, Hon DSc |
1998–2005 | Arglwydd Alexander o Weedon, QC, FRSA, Hon. LLD |
2006– | Floella Benjamin, OBE, DLitt (Hon) |
1954–1966 | Syr James Cook |
1966–1972 | Syr John Llewellyn |
1973–1984 | Yr athro Harry Kay |
1984–1994 | Syr David Harrison |
1994–2002 | Syr Geoffrey Holland |
2002– | Yr athro Steve Smith |
|dyddiadcyrchiad=
ignored (help);Unknown parameter|cyhoeddwr=
ignored (help)