Mewnystadegaeth,prawfU Mann-Whitney (a elwir hefyd yprawf Mann-Whitney-Wilcoxon,prawf swm safle Wilcoxon, neubrawfWilcoxon-Mann-Whitney) ywprawf amharamedrig o'r rhagdybiaeth nwl bod, ar gyfer gwerthoedd a ddewiswyd ar hap X ac Y o ddwy boblogaeth, mae'r tebygolrwydd y bydd X yn fwy nag Y yn hafal i'r tebygolrwydd y bydd Y yn fwy na X.
Mae yna nifer o ffyrdd eraill o ffurfio'r rhagdybiaethau nwl ac amgen fel bod y prawfU Mann-Whitney yn ddilys.[1] Yn wreiddiol gwnaeth Henry Mann a Donald Ransom Whitney[2] ddatblygu'r prawf o dan y dybiaeth o ymatebion di-dor i wirio os yw un dosraniad yn stocastig yn fwy na'r llall. Yn fwy cyffredinol, tybiwn fod:
O dan y fformiwleiddiad cyffredinol hwn, mae'r prawf ond yn gyson pan fydd y canlynol yn digwydd: o danH1:
Er mwyn gwneud y prawf mae angen cyfrifo ystadegyn, a elwir fel arfer ynU, y mae ei ddosbarthiad o dan y rhagdybiaeth nwl yn hysbys. Yn achos samplau bach, gellir darllen gwerthoedd y dosraniad o dablau ystadegol. Ar gyfer meintiau sampl mwy na tua 20, gallwn ei frasamcanu gan ddefnyddio'rdosbarthiad Normal yn weddol dda.
Mae prawfU Mann-Whitney wedi'i gynnwys yn y mwyafrif o feddalwedd ystadegol modern. Mae hefyd yn hawdd ei gyfrif gan law, yn enwedig ar gyfer samplau bach. Mae dwy ffordd o wneud hyn.
Dull un:
Ar gyfer cymharu dwy set fach o arsylwadau, mae dull uniongyrchol hwn yn gyflym, ac yn rhoi mewnwelediad i ystyr yr ystadegynU. Mae'n cyfateb i nifer o weithiau, allan o'r holl gystadlaethau fesul pâr, y mae un boblogaeth yn ennill dros y boblogaeth arall. Ar gyfer pob arsylwad mewn un set, cyfrifwch y nifer o weithiau mae'r gwerth cyntaf hwn yn ennill dros unrhyw arsylwadau yn y set arall (mae'r gwerth arall yn colli os yw'r cyntaf hwn yn fwy). Cyfrif 0.5 ar gyfer unrhyw sgôr gyfartal. Y swm hwn ywU, h.y. ar gyfer y set gyntaf. YnaU ar gyfer yr ail set yw gwrthwyneb,.
Dull dau:
Ar gyfer samplau mwy:
Tybiwch ein bod cynnal prawf i weld os yw crwbanod yn fwy tebygol o guro cwningod mewn ras. Casglwn sampl o 10 crwman a 10 cwningen, ac maent yn rasio ar yr un pryd. Y drefn gwnaethant groesi'r llinell gorffen, yn ysgrifennu T am grwban a H am gwningen, yw:
H0 yw bod safleoedd y crwbanod yn gyfartal i safleoedd y cwningod, aH1 yw bod un anifail ynn gwell yn rasio na'r llall.
Beth yw gwerthU?
Nawr. O dablau ystadegol[4] y gwerth critigol yw 8, felly gallwn wrthod y rhagdybiaeth nwl.
Ymddangosodd yr ystadegyn yn gyntaf mewn erthygl yn 1914[5] gan yr Almaenwr Gustav Deuchler (gyda therm coll yn ei amrywiant).
Mewn un papur ym 1945, cynigiodd Frank Wilcoxon[6] y prawf swm safle un sampl a'r prawf swm safle dau sampl, yn gwirio poblogaethau cyfartal yn erbyn poblogaethau nad yw'n gyfartal). Fodd bynnag, yn y papur hwnnw dim ond ychydig bwyntiau a gyflwynodd ar gyfer yr achos lle mae'r meintiau sampl yn gyfartal (er mewn papur diweddarach rhoddodd dablau mwy).
Ymddangosodd dadansoddiad trylwyr o'r ystadegyn yn yr erthygl gan Henry Mann a'i fyfyriwr Donald Ransom Whitney ym 1947.[2] Trafododd yr erthygl hon y rhagdybiaethau amgen. Fe wnaeth y papur hwn hefyd gyfrifo pedair moment gyntaf a sefydlodd bod gan yr ystadegyn terfan Normal, gan sefydlu felly ei fod yn annibynnol o ddosraniad yn asymptotig.