Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Pornograffi

Oddi ar Wicipedia

Cyfeiriapornograffi neuporn at y portread o weithredoeddrhywiol er mwyn cyffroad a boddhad rhywiol. Nid yw o reidrwydd yr un peth â "maswedd" acerotica ac mae'r diffiniad o "bornograffi" yn amrywio o gyfnod i gyfnod ac o ddiwylliant i ddiwylliant o gwmpas y byd.

Ceir gwahanol fathau o bornograffi, o lyfrau erotig,cylchgronau pornograffig, cardiau post,ffotograffau,cerfluniau,darluniauanimeiddiad,recordiad sain,ffilm bornograffig,fideo neugêm fideo. Fodd bynnag, pan fo gweithred rywiol yn cael ei pherfformio gerbron cynulleidfa fyw, yn ôl y diffiniad, nid pornograffi mohono, am fod y term yn cyfeirio at y portread o'r weithred yn hytrach na'r weithred ei hun. O ganlyniad, ni ystyrirsioeau rhyw adadwisgo yn bornograffi.

Maemodel pornograffig yn diosg ei dillad neu ddillad ar gyfer lluniau pornograffig. Maeactor pornograffig, yn actio mewnffilmiau pornograffig.

Yn aml mae pornograffi wedi cael eisensro a rhoddir cyfyngiadau cyfreithiol arno ar sail anweddustra. Mae'r seiliau hyn ynghyd â beth yn union a ellir ei ddiffinio fel pornograffi wedi amrywio ar gyd-destunau hanesyddol, diwylliannol a chenedlaethol.[1]

Dros y degawdau diwethaf, mae'r diwydiant pornograffi wedi tyfu gyda chynnyddVCR,DVDs, yrhyngrwyd, yn ogystal ag agweddau cymdeithasol mwy goddefgar tuag at bortreadau rhywiol. Maepornograffi amatur wedi dod yn fwyfwy poblogaidd a chaiff ei ddosbarthu'n bennaf ar ywe.

Deddfau gwledydd

[golygu |golygu cod]
     cyfreithlon     rhai mathau'n cyfreithlon     anghyfreithlon     data ddim ar gael

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. H. Mongomery Hyde (1964)A History of Pornography: 1-26
gw  sg  go
Rhyw
Digwyddiadau
ffisiolegol
Iechyd ac
Addysg rhyw
Hunaniaeth
Y gyfraith
Hanes
Perthnasau agos
achymdeithas
Yn ôl gwlad
Gweithgareddau rhyw
Y diwydiant rhyw
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Pornograffi&oldid=11036084"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp