![]() | |
Math | pont bwa dec, pont droed, pont gaerog,pont ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy ![]() |
Sir | Trefynwy, Trefynwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 14 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.809°N 2.71996°W, 51.808973°N 2.720045°W ![]() |
Hyd | 34.8 metr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Deunydd | tywodfaen ![]() |
Dynodwr Cadw | MM008 ![]() |
Pont garreg gaerog sy'n croesiAfon Mynwy ynNhrefynwy,Sir Fynwy,Cymru, ywPont Mynwy (hefydPont Trefynwy). Saif tua 1,600 troedfedd (500 m) tua'r gorllewin o gydlifiad Afon Mynwy agAfon Gwy. Dyma’r unig bont afon sydd wedi goroesi ym Mhrydain gyda’i thŵr porth yn sefyll ar y bont.
Mae'r bont yn dyddio o 1272. Fe'i hadeiladwyd odywodfaen coch; mae ganddi dri bwa. Mae'r tŵr porth gydaphorthcwlis yn dyddio o 1297 i 1315. Cafodd ei lledu ar y ddwy ochr yn gynnar yn y 19g, pan dorrwyd bwâu cerddwyr trwy dyrau y porthdy. Cafodd y bont ei hatgyfnerthu yn 1839 ac mae'n rhan o Muriau Tref Trefynwy.[1]
Credir i bont bren sefyll yma o'r blaen, ac yn 1988 cafwyd tystiolaeth archaeolegol o hynny.[2] Dengysdyddio radiocarbon i'r coed a ddefnyddiwyd yn dod o gyfnod rhwng 1123 a 1169.