![]() | |
Math | pont grog, pont ffordd,pont ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 8 Medi 1966 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Afon Hafren ![]() |
Sir | De Swydd Gaerloyw,Ardal Fforest y Ddena ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6099°N 2.64026°W ![]() |
Cod OS | ST5590090230 ![]() |
Hyd | 1,600 metr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Deunydd | dur ![]() |
Pont grog ywPont Hafren sy'n rhychwantuAfon Hafren rhwng DeSwydd Gaerloyw ynLloegr aSir Fynwy ynNe Cymru. Mae hi'n cludoTraffordd yr M48. Y bont oedd y groesfan wreiddiol rhwngCymru a Lloegr a oedd yn cludoTraffordd yr M4, cyn agorAil Groesfan Hafren. Cymerwyd pum mlynedd i'w chodi gan gostio £8 miliwn. Agorwyd y bont ar 8 Medi 1966 gan y FrenhinesElisabeth II a gyfeiriodd ati fel dechrau cyfnod economaidd newydd i dde Cymru. Rhoddwyd statws rhestredig Gradd I i'r bont ym 1998.
I ddathlu agoriad y bont, ysgrifennodd y bardd Eingl-GymreigHarri Webb bennill ddychanol:
Two lands at last connected
Across the waters wide,
And all the tolls collected
On the English side.[1]
Serch i'r Bont Hafren gael ei defnyddio i groesi rhwng Cymru a Lloegr, mae'r bont ei hun wedi'i lleoli'n gyfan gwbl y tu mewn i ffiniau Lloegr gyda'r penCymreig wedi'i leoli uwchben Penrhyn Beachley, sydd y tu fewn i ffiniau presennol Lloegr. Arferai Penrhyn Beachley, fodd bynnag, fod y tu mewn i ffiniau Cymru yn ôl lleoliadClawdd Offa.
Mae afon Hafren yn cynnwys nifer o bontydd gwahanol, sef Pont Gwy, Traphont Beachley, Pont Hafren a Thraphont Aust.
Pont 408 m (1,340 tr) o hyd sydd wedi'i hangori â cheblau yw Pont Gwy. Mae hi'n rhychwantuafon Gwy sydd heddiw'n nodi'r union ffin rhwng Lloegr a Chymru—2.7 km i'r de oGas-gwent.
Adeiledd hytrawst deuflwch gyda wyneb concrit yw Traphont Beachley sydd wedi'i gynnal gan drestlau haearn wrth iddi grosi'r penrhyn. Saif gwersyll y fyddin ar y penrhyn.
Lleolir Pont Hafren yn agos i leoliad yr hen Fferi Aust. Pont grog 1,597 m (5,240 tr) o hyd yw hi, sydd â dec wedi'i gynnal gan ddau brif gebl sy'n hongian rhwng dau dŵr haearn. Hyd y bwlch rhwng y ddau dŵr yw 988 m (3,240 tr). Mae'r tyrau'n wag ac yn codi 136 m (445 tr) uwchben lefel y môr.
Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Aust ac y mae'n cario'r ffordd i angorfa gyntaf Pont Hafren.