Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Polybius

Oddi ar Wicipedia
Polybius
Ganwydc. 200CC Edit this on Wikidata
Megalopoli Edit this on Wikidata
Bu farwc. 120CC Edit this on Wikidata
o syrthio o geffyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCynghrair Achaea Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, person milwrol,llenor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Histories Edit this on Wikidata
TadLycortas Edit this on Wikidata

RoeddPolybiusΠολύβιος, tua203 -120 CC), yn hanesydd Groegaidd sy'n enwog am ei lyfrYr Hanesion neuTŵf yr Ymerodraeth Rufeinig, sy'n delio â'r cyfnod220 -146 CC.

Ganed Polybius yn Megalopolis ynAchaea. Roedd ei dad yn amlwg mewn gwleidyddiaeth ac yn un o brif gefnogwyr y polisi o niwtraliaeth yn ystod y rhyfel rhwng y Rhufeiniaid aPerseus, brenin Macedonia. Oherwydd hyn roedd y Rhufeiniaid yn amheus ohono, ac roedd ei fab Polybius yn un o'r mil o wystlon a Achaea a gymerwyd i Rufain yn168 CC, Bu Polybius yno am 17 mlynedd. Yn Rhufain daeth yn gyfaill i nifer o Rufeiniaid amlwg, yn enwedigAemilius Paulus, gorchfygwr Macedonia. Gwnaeth Paulus ef yn gyfrifol am addysg ei feibion, Fabius aScipio Aemilianus, a ddaeth yn gadfridog enwog. Rhyddhawyd y gwystlon yn150 CC a dychwelodd Polybius adref, ond y flwyddyn wedyn aeth gyda Scipio i Affrica, ac roedd yn bresennol pan gipwyd dinasCarthago a'i dinistrio yn146 CC.

Ni wyddir llawer am ei fywyd yn ddiweddarch; credir iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i amser yn Rhufain yn gweithio ar ei hanes, ond teithiodd i nifer o wledydd o gwmpasMôr y Canoldir hefyd. Efallai iddo ddychwelyd iWlad Groeg tua diwedd ei oes, Yn ôl un ffynhonnell, bu farw wedi iddo syrthio oddi ar geffyl yn 118 CC.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn cynnwys bywgraffiad o'r gwleidydd GroegaiddPhilopoemen, a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell ganPlutarch. Ysgrifennodd gyfrol ar dacteg filwrol hefyd. Collwyd y rhain, ond mae'r rhan fwyaf o'rHanesion wedo ei gadw.

Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Polybius&oldid=11834914"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp