Arwydd wrth y llywodraeth ym maestref Tangshan: "Ar gyfer cenedl bŵerus a llewyrchus a theulu hapus, cynlluniwch eich teulu os gwelwch yn dda."
Polisi rheoli poblogaeth yngNgweriniaeth Tsieina yw'rpolisi un plentyn, neu'rpolisi cynllunio teuluol fel y'i gelwid yn swyddogol,[1]. Ystyria nifer o ddemograffwyr y term polisi "un plentyn" yn gamenw, am fod gan y polisi nifer o eithriadau: gall teuluoedd gwledig gael ail blentyn os yw'r plentyn cyntaf yn ferch neu'n anabl, ac nid yw lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynnwys o dan y ddeddfwriaeth. Caniateir i deuluoedd lle nad oes gan y fam na'r tad siblingiaid gael dau blentyn.[2] Eithrir trigolion yr Ardaloedd Gweinyddol Arbennig ynHong Cong aMacau, yn ogystal ag estronwyr sy'n byw yn Tsieina. Yn 2007, amcangyfrifir fod 35.9% o boblogaeth Tsieina o dan reolaeth y polisi hwn.[3] Yn Tachwedd 2013, cyhoeddodd llywodraeth Tsiena y byddent yn llacio'r ddeddfwriaeth ymhellach drwy ganiatáu i deuluoedd gael dau blentyn os yw un o'r rhieni'n unig blentyn.[2]
Cyfwynwyd y polisi yn 1979 er mwyn delio â phroblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn Tsieina..[4] Amcangyfrifa demograffwyr fod y polisi wedi atal 200 miliwn o enedigaethau rhwng 1979 a 2009.[5] Ystyrir y polisi yn ddadleuol yn Tsieina a thu hwnt oherwydd y dull y caiff y polisi ei weithredu ac oherwydd pryderon ynglŷn â chanlyniadau cymdeithasol negyddol.[6] Mae'r polisi wedi cael ei gysylltu â chynnydd yn y nifer oerthyliadau gorfodol,babanladdiad benywaidd, a than-adrodd[7] genedigaethau benywaidd, ac awgryma rhai taw dyma yw'r rheswm tu ôlanghydbwysedd rhyw Tsieina. Fodd bynnag, dangosodd arolwg a wnaed gan Ganolfan Ymchwil Pew yn 2008 fod 76% o boblogaeth Tsieina yn cefnogi'r polisi.[8]
Gweinyddir y polisi ar lefel rhanbarthol trwy roi dirwyon yn seilieidg ar incwm y teulu a ffactorau eraill. Ceir "Comisiynau Poblogaeth a Chynllunio Teuluol" (计划生育委员会) ar bob lefel o lywodraeth er mwyn hybu ymwybyddiaeth, cofrestru a chwblhau gwaith ymchwilio.[9]
↑ Information Office of the State Council Of the People's Republic of China (Awst 1995). Family Planning in China. Embassy of the People's Republic of China in Lithuania. Adran III paragraff 2.