YnEwrop aGogledd America, rhennir yrHolosen i oesoedd ar raddfa Blytt-Sernander, fel a ganlyn: cyn-Foreaidd, Boreaidd, Atlantaidd, Isforeaidd ac Isatlantaidd. Ceir hefyd is-epocau Pleistosenaidd lleol, sydd fel arfer wedi'u mesur o ran tymheredd: is-gyfnodaurhewlifol a rhyng-gyfnodau cynhesol. Mae'r is-gyfnod rhewlifol diwethaf yn gorffen gyda'r Dryas Ieuaf / Diweddar.
Epocdaearegol ydyPleistosen (Saesneg:Pleistocene) (symbol PS[1]) a barodd o tua 2,588,000 hyd at 11,700 o flynyddoedd yn ôl ac sy'n rhychwantu'r holl gyfnodau diweddar o ailadroddrhewlifiannau.
SyrCharles Lyell a fathodd y term ym 1839 i ddisgrifio strata o greigiau ynSisili; sylweddolodd fod yn y creigiau hynffawnamolysgaidd a bod 70% ohonyn yn dal i fodoli. Roedd y ffaith hwn yn ei wneud yn gwbwl wahanol i'r epocPlïosenaidd ac yn ei wneud yn gyfnod gwahanol ac iau. Bathodd y termPleistocene (mewn ystyr lythrennol ‘mwayf newydd, diweddaraf’) o'rHen Roegpleîstos (πλεῖστος) ‘mwyaf’ akainós (καινός) ‘newydd, diweddar’; roedd hyn, felly, yn cyferbynnu gyda'r cyfnod a'i rhagflaenodd, sef y cyfnod Plïosenaidd (mewn ystyr lythrennol ‘mwy newydd, diweddarach’, o'r geiriaupleíōn (πλείων) ‘mwy’ akainós), a'r cyfnod a'i dilynodd sefHolosen (‘yn gyfangwbwl newydd’, a darddodd o'r Hen Roeghólos (ὅλος) ‘yn gyfangwbwl’ akainós) sy'n ymestyn hyd at y presennol.