Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Pinocchio (ffilm 1940)

Oddi ar Wicipedia
Pinocchio
CyfarwyddwrBen Sharpsteen
Wilfred Jackson
Hamilton Luske
Norman Ferguson
T.Hee
Jack Kinney
Bill Roberts
CynhyrchyddWalt Disney
Dylunio
Cwmni cynhyrchuRKO Radio Pictures
Dyddiad rhyddhau7 Chwefror,1940
Amser rhedeg88 munud
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg
(Saesneg)Proffil IMDb
Erthygl am y ffilm animeiddiedig gan Walt Disney yw hon. Gweler hefydPinocchio (gwahaniaethu).

Ffilm Disney ywPinocchio[1] (Cyfieithiad swyddogol Cymraeg: "Pinocio").[2] Mae hi'n seiliedig ar y llyfrLe avventure di Pinocchio ganCarlo Collodi.[3]

Plot

Mae Jiminy Cricket yn esbonio i'r gynulleidfa ei fod yn mynd i adrodd stori am ddymuniad sy'n dod yn wir. Mae ei stori yn cychwyn yng ngweithdysaer coedEidalaidd o'r enw Geppetto. Mae Jiminy yn gwylio wrth i Geppetto orffen gwaith ar farionét pren y mae'n ei enwi'n Pinocchio. Cyn cwympo i gysgu, mae Geppetto yn gwneud dymuniad arseren y bydd Pinocchio yn troi'nfachgen go iawn. Yn ystod y nos, maeTylwyth Teg Glas yn ymweld â'r gweithdy ac yn dod â Pinocchio yn fyw, er ei fod yn parhau i fod yn byped. Mae hi'n ei hysbysu, os bydd yn profi ei hun yn ddewr, yn eirwir ac yn anhunanol, y bydd yn dod yn fachgen go iawn ac yn penodi Jiminy i fod yn gydwybod iddo.

Mae Geppetto mewn sioc, ond ar ben ei ddigon, i ddarganfod bod ei byped yn fyw. Drannoeth, ar ei ffordd i'r ysgol, mae Pinocchio yn cael ei arwain ar gyfeiliorn gan Onest John yllwynog a'i gydymaith, Gideon ygath, sy'n ei argyhoeddi i ymuno â sioe bypedau Stromboli, er gwaethaf gwrthwynebiadau Jiminy. Daw Pinocchio yn seren sioeau Stromboli fel pyped sy'n gallu canu a dawnsio heb gael ei reoli gan gortynnau. Fodd bynnag, pan mae Pinocchio eisiau mynd adref am y noson, mae Stromboli yn ei gloi mewn cawell adar. Mae Jiminy yn sleifio i mewn i gert Stromboli ond nid yw'n gallu rhyddhau ei ffrind. Mae'r Tylwyth Teg Glas yn ymddangos ac yn gofyn i Pinocchio pam nad oedd yn yr ysgol. Mae Jiminy yn annog Pinocchio i ddweud y gwir, ond yn lle hynny, mae'n dechrau dweud celwyddau, sy'n achosi i'w drwyn dyfu'n hirach ac yn hirach. Mae Pinocchio yn addo bod yn dda o hyn ymlaen, ac mae’r Tylwyth Teg Glas yn dychwelyd ei drwyn i’w ffurf wreiddiol ac yn ei ryddhau gan ei rybuddio mai dyma'r tro olaf y gall ei helpu.

Ym mhen arall y dref, mae'r Honest John a Gideon yn cwrdd â choetmon sy'n addo talu arian iddynt os gallant ddod o hyd i fechgyn bach drwg iddo fynd â nhw draw i'r Ynys Pleser. Gan ddod ar draws Pinocchio ar ei ffordd adref, maen nhw'n ei argyhoeddi bod angen iddo fynd ar wyliau i'r Ynys. Ar y ffordd i'r Ynys Pleser, mae'n cyfeillio â Lampwick, bachgen drwg. Heb reolau nac awdurdod i orfodi eu gweithgaredd, buan y mae Pinocchio a’r bechgyn eraill yn cymryd rhan mewnysmygusigarau asigaréts,gamblo,fandaliaeth, a meddwi, er mawr siom i Jiminy. Yn ddiweddarach, wrth geisio cyrraedd adref, mae Jiminy yn darganfod bod gan yr ynys melltith erchyll: mae'r bechgyn a ddygwyd i Ynys Pleser yn cael eu trawsnewid ynasynnod am eu camymddwyn ac yn cael eu gwerthu felcaethweision i'r pyllau halen a'rsyrcas . Mae Jiminy yn rhedeg yn ôl i rybuddio Pinocchio, dim ond i weld Lampwick yn trawsnewid yn asyn. Gyda chymorth Jiminy, mae Pinocchio yn dianc o'r ynys, o drwch blewyn, gyda dim ond clustiau a chynffon asyn.

Ar ôl dychwelyd adref, mae Pinocchio a Jiminy yn gweld bod gweithdy’r saer yn wag. Mae'r Tylwyth Teg Glas yn rhoi gwybod iddynt fod Geppetto wedi mentro allan i'r môr i achub Pinocchio o'r Ynys Pleser ond iddo gael ei lyncu gan Monstro,Morfil Sberm enfawr, ofnadwy, a'i fod bellach yn byw ym mol y bwystfil. Yn benderfynol o achub ei dad, mae Pinocchio yn neidio i'r môr, gyda Jiminy. Cyn bo hir, mae Pinocchio yn cael ei lyncu gan Monstro hefyd, ac yn dod o hyd i Geppetto. Mae Pinocchio yn dyfeisio cynllun i wneud i Monstro disian, gan roi cyfle iddynt ddianc. Mae'r cynllun yn gweithio, ond mae'r morfil cynddeiriog yn eu herlid ac yn malu eu rafft. Mae Pinocchio yn tynnu Geppetto i mewn diogelwch ogof cyn i Monstro daro i mewn iddo. Mae Geppetto, Figaro, Cleo, a Jiminy yn cael eu golchi i'r lan yn ddiogel , ond mae'n ymddangos bod Pinocchio wedi ei ladd.

Yn ôl adref, mae Geppetto, Jiminy, a'r anifeiliaid anwes yn anghysuradwy eu galar o golli Pinocchio. Fodd bynnag, mae'r Tylwyth Teg Glas yn penderfynu bod Pinocchio wedi profi ei hun yn ddewr, yn eirwir ac yn anhunanol. I'w wobrwyo, mae hi'n gwrthdroi melltith yr Ynys Bleser ac yn ei droi'n fachgen dynol go iawn gan ei adfywio yn y broses. Mae Pinocchio yn deffro, er mawr lawenydd i bawb, pan maen nhw'n darganfod ei fod bellach yn fachgen go iawn. Wrth i’r grŵp ddathlu, mae Jiminy yn camu y tu allan i ddiolch i’r Tylwyth Teg ac yn cael ei wobrwyo â bathodyn aur sy’n ei ardystio ei fod, bellach, yn gydwybod swyddogol wrth i’r ffilm ddod i ben.

Datblygiad

Ym mis Medi 1937, yn ystod cynhyrchiadSnow White and the Seven Dwarfs, daeth yr animeiddiwr Norman Ferguson â fersiwn wedi'i chyfieithu o nofel blant Eidalaidd Carlo Collodi ym 1883,The Adventures of Pinocchio, i sylwWalt Disney . Ar ôl darllen y llyfr, comisiynodd Disney yr artist bwrdd stori Bianca Majolie i ysgrifennu amlinelliad stori newydd ar gyfer y llyfr, ond ar ôl ei ddarllen, roedd yn teimlo bod ei amlinelliad yn rhy ffyddlon.[4] Bwriadwyd iPinocchio fod yn drydedd ffilm nodwedd y stiwdio, ar ôlBambi . Fodd bynnag, oherwydd anawsterau gydaBambi cyhoeddodd Disney y byddaiBambi yn cael ei ohirio tra byddaiPinocchio yn cael ei gynhyrchu.[5][4]

Cymeriadau

  • Pinocchio - Dickie Jones
  • Jiminy Cricket -Cliff Edwards
  • Geppetto - Christian Rub
  • Tylwyth Teg Glas - Evelyn Venable
  • J. Worthington Foulfellow (Y Llwynog) - Walter Catlett
  • Gideon (Y Gath) - Mel Blanc
  • Figaro - Mel Blanc
  • Cleo - Mel Blanc
  • Stromboli - Charles Judels
  • Y Cerbydwr - Charles Judels
  • Lampwick - Frankie Darro
  • Monstro (Y Morfil)

Trac sain

Cyfansoddwyd y caneuon ynPinocchio gan Leigh Harline gyda geiriau gan Ned Washington. Cyfansoddodd Leigh Harline a Paul J. Smith y sgôr gerddoriaeth atodol.[6] Rhyddhawyd y trac sain ar 9 Chwefror, 1940. Daeth cân Jiminy Cricket,"When You Wish Upon A Star", yn boblogaidd iawn ac mae'n dal i gael ei huniaethu â'r ffilm, ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel cân themaCwmni Walt Disney.[7] Enillodd y trac sainWobr yr Academi am y Sgôr Gwreiddiol Orau .[7]

Caneuon

  • "When You Wish Upon a Star"
  • "Little Wooden Head"
  • "Give a Little Whistle"
  • "Hi-Diddle-Dee-Dee"
  • "I've Got No Strings"

Derbyniad

Cerdyn teitlPinocchio

Rhoddodd Frank S. Nugent oThe New York Times bump allan o bum seren i’r ffilm,[8] RhoddoddTime adolygiad cadarnhaol i'r ffilm. GwnaethVariety canmol yr animeiddio uwchraddol. NododdHollywood Reporter bodPinocchio yn adloniant i bawb o bob oedran.[9] Enillodd y ffilmGwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau a'r Sgôr Gwreiddiol Orau, y ffilm Disney gyntaf i ennill y naill neu'r llall.[10]

I ddechrau, nid oeddPinocchio yn llwyddiant yn y swyddfa docynnau.[11] Roedd derbyniadau'r swyddfa docynnau o ryddhad cychwynnol y ffilm yn is na llwyddiantSnow White ac yn is na disgwyliadau'r stiwdio.[12] O $2.6 miliwn o gostiodd i ryddhau'r ffilm - dwywaith costSnow White[11] - dim ond $1 miliwn gwnaeth Disney adennill erbyn diwedd 1940. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y ffaith bodYr Ail Ryfel Byd a'i ganlyniadau wedi rhwystro llwyddiant ym marchnadoedd Ewrop ac Asia.[13]

Ar y wefan casglu adolygiad Rotten Tomatos, mae'r ffilm yn cael sgôr uchaf y wefan o 100%, sy'n golygu pob un o'r 52 adolygiad o'r ffilm, yn gadarnhaol, gyda sgôr cyfartalog o 9.1 / 10.[14] Ar Metacritic, mae ganPinocchio sgôr wedi'i gloriannu o 99 allan o 100 yn seiliedig ar 17 adolygiad.[15]

Llyfryddiaeth


  • Pinsky, Mark I. (2004)."4".The Gospel According to Disney: Faith, Trust, and Pixie Dust. Westminster John Knox Press.ISBN 978-0-664-23467-6.


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Garrone, Matteo (2019-12-19), Pinocchio, Federico Ielapi, Roberto Benigni, Rocco Papaleo, Massimo Ceccherini, Archimede, Rai Cinema, Le Pacte, https://www.imdb.com/title/tt8333746/, adalwyd 2020-12-20
  2. "www.gwales.com - 9781899877058, Cyfres Disney: Pinocio".www.gwales.com. Cyrchwyd2021-01-25.
  3. "Carlo Collodi".Carlo Collodi (yn Eidaleg). Cyrchwyd2020-12-20.
  4. 4.04.1Gabler 2006, t. 291.
  5. Barrier 1999, t. 236.
  6. Pinocchio (RCA) - Original Soundtrack, Songs, Reviews, Credits, - AllMusic, https://www.allmusic.com/album/pinocchio-rca-mw0000308863, adalwyd 2020-12-20
  7. 7.07.1Roberts 2006, t. 134.
  8. Nugent, Frank S. (1940-02-08)."THE SCREEN IN REVIEW; 'Pinocchio,' Walt Disney's Long-Awaited Successor to 'Snow White,' Has Its Premiere at the Center Theatre--Other New Films (Cyhoeddwyd 1940)".The New York Times.ISSN 0362-4331. Cyrchwyd2020-12-20.
  9. "'Pinocchio': THR's 1940 Review | Hollywood Reporter".www.hollywoodreporter.com. Cyrchwyd2020-12-20.
  10. Roberts 2006.
  11. 11.011.1Barrier 1999.
  12. Thomas 1994.
  13. "Richard B. Jewell's RKO film grosses, 1929-51: The C. J. Trevlin Ledger: A comment". Historical Journal of Film, Radio and television, Volume 14, Issue 1, 1994.
  14. Rotten Tomatoes - Pinocchio (1940), https://www.rottentomatoes.com/m/pinocchio_1940, adalwyd 2020-12-20
  15. Pinocchio, https://www.metacritic.com/movie/pinocchio-1940, adalwyd 2020-12-20
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Pinocchio_(ffilm_1940)&oldid=10821905"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp