Llecyn cymylog ynlens y llygad sy'n amharu ar y golwg ywpilen (hefydrhuchen,magl,cataract). Mae pilennau yn aml yn datblygu yn araf ac yn gallu effeithio ar un neu'r ddwy lygad. Gall symptomau gynnwys pyliad lliwiau, gweld yn aneglur, lleugylchoedd o amgylch golau, anhawster gyda goleuadau llachar, a thrafferth gweld yn y nos.[1] Gall hyn arwain at drafferth wrth yrru, darllen, neu adnabod wynebau.[2] Gall golwg gwael sy'n cael ei achosi gan bilennau hefyd gynyddu'r risg o gwympo aciselder.[3] Pilennau sydd y tu ol i hanner yr achosion oddallineb a 33% o'r achosion o nam ar y golwg ledled y byd.[4][5]
Mae pilennau gan amlaf yn ganlyniad i heneiddio ond gall ddigwydd o ganlyniad i drawma neu amlygiad i ymbelydredd, gall fod yn bresennol ers genedigaeth, neu ddilyn triniaeth llygad oherwydd problemau eraill.[6] Mae ffactorau risg yn cynnwys clefyd siwgr,ysmygu tobacco, gormod oolau haul, acalcohol. Gall naill ai clympiau o brotein neu bigment melyn-brown sydd yn y lens ostwng trawsyrriant golau i'r retina yng nghefn y llygad. Ceir diagnosis trwy archwilio'r llygad.
Mae dulliau o atal pilennau yn cynnwys gwisgo sbecotl haul a pheidio ag ysmygu. Yn y cyfnod cynnar gellir gwella'r symptomau trwy wisgo sbectol. Os nad yw hynny'n helpu, yr unig dull effeithiol o'i drin yw trwy driniaeth i dynu'r lens gymylog a'i chyfnewid am lens artiffisial. Dim ond os yw'r pilennau'n achosi problemau y bydd angen triniaeth, ac mae hynny fel arfer yn gwella ansawdd bywyd y claf.[7] Nid oes triniaeth pilennau ar gael mewn nifer o wledydd, ac yn arbennig ar gyfer menywod, pobl sy'n byw yng nghefn gwlad, a'r rhai na all ddarllen.
Mae tua 20 miliwn o bobl yn ddall o ganlyniad i bilennau. Pilennau sydd y tu ol i tua 5% o'r achosion o ddallineb yn yr Unol Daleithiau a bron 60% o'r achosion o ddlalineb mewn rhannau o Affrica a De America.[8] Maedallineb o ganlyniad i bilennau i'w weld mewn tua 10 i 40 o bob 100,000 o blant yn y byd sy'n datblygu, ac 1 i 4 o bob 100,000 o blant yn y byd datblygedig.[9] Mae pilennau yn dod yn fwy cyffredin gydag oedran. Mae dros hanner pobl yn yr Unol Daleithiau wedi cael pilennau erbyn y byddant yn 80 oed.
↑Gimbel, HV; Dardzhikova, AA (January 2011). "Consequences of waiting for cataract surgery.". Current Opinion in Ophthalmology22 (1): 28–30. doi:10.1097/icu.0b013e328341425d. PMID21076306.
↑Lamoureux, EL; Fenwick, E; Pesudovs, K; Tan, D (January 2011). "The impact of cataract surgery on quality of life.". Current Opinion in Ophthalmology22 (1): 19–27. doi:10.1097/icu.0b013e3283414284. PMID21088580.
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnciechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.
Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!