Dinas hanesyddol acarcheolegol yn ne Gwlad Iorddonen ywPetra (Arabeg:ٱلْبَتْرَاءAl-Batrāʾ ;Groeg yr Henfyd:Πέτρα), a oedd yn wreiddiol yn cael ei hadnabod gan ei thrigolion felRaqmu. Mae Petra yn gorwedd ar lethr Jabal Al-Madbah mewn basn ymhlith y mynyddoedd sy'n ffurfio ochr ddwyreiniol y dyffryn Araba sy'n rhedeg o'rMôr Marw iGwlff Aqaba.[1]
Credir fod pobl wedi ymgartrefu yn Petra mor gynnar â 9,000 CC, a bod y ddinas wedi'i sefydlu fel prifddinas Teyrnas Nabataeaidd tua'r4g CC. Roedd y Nabataeaid ynArabiaid nomadig a fuddsoddodd yn agosrwydd Petra at y llwybrau masnach drwy ei sefydlu fel canolbwynt masnach y rhanbarth.[2]
Y llwybr cul (Siq) sy'n arwain i Petra
Llwyddodd y Nabateaid i sicrhau cyfalaf trwy fasnachu effeithiol a daeth Petra'n ganolbwynt i'w cyfoeth. Ceir cyfeiriad at ymosodiad ar y ddinas dan orchymynAntigonus I yn 312 CC. Roedd y Nabataeaid, yn wahanol i'w gelynion, yn gyfarwydd â byw yn yr anialwch diffaith, ac roeddent yn gallu gwrthyrru ymosodiadau trwy ddefnyddio tir mynyddig yr ardal. Roeddent yn arbennig o fedrus wrth gasglu dŵr glaw,amaethu a cherfio cerrig. Ffynnodd Petra yn y1g OC pan adeiladwyd ydemlAl-Khazneh enwog - fel beddrod i'r Brenin Nabataeaidd Aretas IV, yn ôl pob tebyg, a chyrhaeddodd poblogaeth y ddinas ei huchafbwynt o tua 20,000 o drigolion.[3]
Petra gyda'r hwyr
Er i'r Deyrnas Nabataeaidd droi'n wladwriaeth ddibynnol ar yrYmerodraeth Rufeinig yn y ganrif gyntaf CC, dim ond yn 106 OC y collwyd ei hannibyniaeth. Syrthiodd Petra i ddwylo'r Rhufeiniaid, a aeth ati i'w chysylltu â Nabataea a'i hailenwi ynArabia Petraea. Lleihaodd pwysigrwydd Petra wrth i lwybrau masnach y môr ddod i'r amlwg, ac ar ôl i ddaeargryn 363 ddinistrio llawer o strwythurau. Gwelodd yCyfnod Bysantaidd nifer o eglwysi Cristnogol yn cael eu hadeiladu, ond parhaodd y ddinas i ddirywio, ac erbyn dechrau'r cyfnod Islamaidd daeth yn lle gwag lle yr oedd llond llaw yn unig o nomadiaid yn byw. Nid oedd yn hysbys i'r byd hyd nes iddo gael ei ailddarganfod yn 1812 gan Johann Ludwig Burckhardt.[4]
Ceir mynediad i'r ddinas trwy geunant Siq, sy'n 1.2 cilomedr (0.75 milltir) o hyd ac yn arwain yn uniongyrchol at y Khazneh. Mae Petra hefyd yn enwog am ei phensaernïaeth sydd wedi'i naddu o'r graig a'i system dŵr, a elwir hefyd yn "Ddinas y Rhosyn" oherwydd lliw'r garreg y mae wedi'i naddu ohoni.[5] Mae wedi bod ynSafleTreftadaeth y Byd UNESCO ers 1985. Mae UNESCO wedi ei ddisgrifio fel "un o nodweddion diwylliannol mwyaf gwerthfawr treftadaeth dyn".[6] Yn 2007, pleidleisiwyd Al-Khazneh yn un o 7 Rhyfeddod Newydd y Byd. Mae Petra'n symbol o Wlad Iorddonen, yn ogystal a'i hatyniad twristiaeth mwyaf poblogaidd. Daeth miliwn o dwristiaid i'w gweld yn 2010, ond gwelwyd gostyngiad yn y blynyddoedd wedi hynny oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol yn y rhan honno o'r byd. Serch hynny, ymwelodd tua 800,000 o dwristiaid â'r safle yn 2018.
↑ Mae un neu ragor o'r brawddegau yn cynnwys testun sydd bellach yn yparth cyhoeddus: Cooke, George Albert (1911). "Petra". In Chisholm, Hugh (gol.).Encyclopædia Britannica.21 (arg. 11th). Cambridge University Press. tt. 309–310.CS1 maint: ref=harv (link)