Diagram yn dangos rhannau blodyn aeddfed. Yn yr enghraifft hon, mae'r perianth wedi ei rannu i galycs (sepalau) a chorola (petalau).
Dail wedi eu haddasu sy'n amgylchynu rhannau atgenhedlolblodau ywpetalau. Yn aml, maent yn lliwgar neu â siapau anarferol er mwyn denu peillwyr. Gellir cyfeirio at holl betalau un blodyn gyda'i gilydd felcorola. Fel arfer, mae petalau i'w gweld ar y cyd â set arall o ddail addasedig oddi tanynt; y rhain yw'r o'r enw sepalau, neu'rcalycs pan yn cyfeirio at y set gyfan ohonynt. Gyda'i gilydd, mae'r corola a'r calycs yn ffurfio'rperianth. Mewn rhywogaethau lle mae'r petalau a'r sepalau yn anodd i'w gwahaniaethu, megis yn y generaAloe aTulipa, maen nhw'n cael eu hadnabod fel ytepalau. I'r gwrthwyneb, mae llawer o blanhigion lle mae'r sepalau a'r petalau yn dra gwahanol, felly gellir defnyddio'r gair cywir yn hyderus. Pan fo tepalau diwahaniaeth yn debyg i betalau clasurol, gelwir nhw ynbetalffurf. Mae tepalau petalffurf i'w gweld mewn yn y monocotyledonau petalffurf megis lilïau.
Er fod petalau yn aml yn amlwg iawn mewn planhigion sy'n cael eu peillio gan anifeiliaid, mewn planhigion sy'n cael eu peillio gan y gwynt, mae'r petalau fel arfer yn fychan neu ar goll yn llwyr.
Corola yn ffurfio tiwb gyda phigau hir (a chalycs gwyrdd ar wahan) ym mlodauBrugmansia aurea, planhigyn yn nheulu'rcodwarth (Solanaceae).
Mae rhan y corola mewn esblygiad planhigion wedi ei astudio yn eang ers iCharles Darwin gynnig damcaniaeth fod corolâu hir wedi cyd-esblygu â thafodau hir mewn peillwyr.[1]
Os yw petalau blodyn yn rhydd o'i gilydd, mae'r planhigyn ynamlbetalog. Os yw'r petalau wedi asio at ei gilydd oleiaf yn rhannol, mae'r planhigyn yn gamopetalog neu'n sympetalog. Mewn rhai rhywogaethau, megistrwyn y llo, mae'r corola'n asio i ffurfio tiwb hir.
Pelargonium peltatum: mae blodau'r planhigyn hwn bron yr un fath â rhaiGeranium, ond eu bod yn sygomorffig.Geranium incanum gyda blodyn actinomorffig, sy'n nodweddiadol o'r genws.Pysen wen â blodau sygomorffig.Cennin pedr (Narcissus pseudonarcissus), gan ddangos, o goesyn i frig y blodyn: fflurwain, cwpan, tepalau, corona.
Gall petalau fod yn wahanol iawn rhwng gwahanol rywogaethau o blanhigion. Yn gyntaf, mae nifer y petalau yn aml yn nodweddiadol o grwpiau dosbarthu. Er enghraifft, mewn planhigionewdicot (y grwp mwyaf o blanhigiondeugibog), mae pedwar neu bum petal i'w cael fel arfer, tra bo gan blodau mewn planhigionunhadgibog fel arfer dri neu chwe phetal, er fod llawer o eithriadau i'r rheol hwn.[2]
Gall sidell y petalau, neu'r corola, ddangos unai cymesuredd cylchdro neu gymesuredd dwyochrog. Os oes cymesuredd cylchdro i'w weld, gyda'r petalau i gyd yr un siap a'r un maint, mae'r blodyn ynactinomorffig. Os mai dim ond mewn un plân y ceir cymesuredd (hy cymesuredd dwyochrog), dywedir fod y blodyn ynsygomorffig. Mae blodau sygomorffig nodweddiadol yn cynnwystegeirianau,pys atrwyn y llo.
Mewn llawer o aelodau teulu'rAsteraceae, megisblodyn yr haul, mae dau fath o flodau yn ffurfio un adeiledd blodeuol mawr. O amgylch y pen blodyn, ceir blodigau pelydr. Mae pob un o'r blodigau pelydr yma, mewn termau anatomegol, yn flodyn unigol, gydag un petal mawr. Yng nghanol y pen blodyn, ceir math arall: blodigau disg. Fel arfer, does gan y blodigau yma ddim petalau. Mewn cennin pedr (Narcissus), mae rhan isaf y tepalau wedi asio i ffurfio cwpan, tra bo'r gwir betalau hefyd wedi asio i ffurfio trwmped (corona).[3][4][5]
Mae amrywiaeth eang i'w weld mewn planhigion blodeuol o ran y patrymau a'r lliwiau ar eu petalau, a gall rhywogaethau sy'n perthyn yn agos fod â phetalau lliw gwahanol iawn.[6] Mewn llawer o rywogaethau, mae'r patrymau cymhleth ar y petalau wedi esblygu fel arwyddion er mwyn annog a thywys peillwyr.[7] Gall y patrymau yma ddefnyddio pigmentau gweladwy,[8] pigmentau uwchfioled[9] neu liwiau strwythurol.[10]
Model ABC datblygiad blodau. Mae'r organnau pennodol (sepalau, petalau, brigerau a charpelau) yn datblygu trwy gyfuniad unigryw o'r genynnau homeotig A, B ac C.
Ffurfiau gwahanol o'i gilydd yw sepalau, petalau, brigerau a charpelau, ac mae sail enetig eu datblygiad (y model ABC) yn adlewyrchu hyn.[11]