Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Pengryniad

Oddi ar Wicipedia
Pengryniad
Enghraifft o:carfan wleidyddol Edit this on Wikidata
Idioleggweriniaetholdeb,cyfansoddiadaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1678 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1642 Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ail-greu ymosodiad y Pengryniaid ar GastellCil-y-coed gan actorion ySealed Knot

Pengryniad (lluosog:Pengryniaid) neuSeneddwyr oedd y term a roddwyd ar gefnogwyrLlywodraeth Lloegr yn ystodRhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651, a therm sy'n dal i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r bobl hyn. Eu gwrthwynebwyr oedd y Brenhinwyr (Saesneg:Cavaliers neuRoyalists), sef cefnogwyrSiarl I, brenin Lloegr a'r Alban. Nod y Pengryniaid oedd trosglwyddo pwer y wlad o ddwylo'r Brenin i'r Llywodraeth a'r Senedd.[1]

Cyn hyn, credai llawer yn y Fonarchiaeth Ddwyfol a bod gan y Brenin yr hawl absoliwt a dwyfol i reoli ac roedd y mwyafrif yn dymuno gweld y frenhiniaeth yn parhau i fodoli, ond yn atebol i'r cyfansoddiad. Ond erbyn diwedd y Rhyfel Cartref trodd y mwyafrif yn erbyn y Brenin a gwelwydOliver Cromwell yn dileu'r frenhiniaeth yn gyfangwbwl a sefydlu Gwerinlywodraeth Lloegr (the Commonwealth of England).

Pencadlywydd y Pengryniaid oedd Thomas Fairfax, a daliai ef ynghyd ag Edward Montagu, ail iarll Manchester a Robert Devereux, 3ydd iarll Essex yn dynn yn y gred sylfaenol o freniniaeth gyfansoddiadol. Fodd bynnag, roedd Cromwell yn llawer mwy hyddysg yn y Gyfraith, a gyda chefnogaethy Fyddin Fodel Newydd trechodd Fairfax a'i ddilynwyr.

Roedd y rhan fwyaf o Biwritaniaid aPhresbyteriaid Cymru a Lloegr hefyd yn cefnogi'r Pengryniaid.

Rhai Pengryniaid Cymreig

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Macaulay 1856, t. 105.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Pengryniad&oldid=11087974"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp