![]() | |
Math | castell mwnt a beili ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Lleoliad | Abergwyngregyn ![]() |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.233925°N 4.014488°W ![]() |
Cod OS | SH6566872640 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN007 ![]() |
Hen domen, neufwnt, o'rOesoedd Canol ydyPen y Mwd, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: pentrefAbergwyngregyn,Gwynedd;cyfeiriad gridSH656726. Mae'n bosib mai ffurf ar y gair 'mwnt' ('mwnt a beili') yw 'mwd' yn yr enw yma, neu dalfyriad o 'mwdwl' (gw. 'Pen y Mwdwl, Bro Gernyw).
Cysylltir y castell hwn â theyrnasiadLlywelyn Fawr, ei fabDafydd ap Llywelyn a'i ŵyrLlywelyn ap Gruffudd,Tywysog Cymru. Dyma leoliad prif lysTeyrnas Gwynedd (neu o bosib, ar saflePen-y-bryn, rhyw gan medr i'r gorllewin). Mae'r castell yn amddiffyn yr hen ffordd drosFwlch y Ddeufaen ac yn gwarchod y fferi strategol drosAfon Menai iLanfaes, prif borthladd Gwynedd yng nghyfnod y Tywysogion.
Fe'i cofrestrwyd ganCadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CN007 .[1]
Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. YNormaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa oFfrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwywledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'rMers): sefSwydd Amwythig,Swydd Gaer,Swydd Henffordd,Powys aSir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]