Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Peithon

Oddi ar Wicipedia
Peithon
Python regius
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Reptilia
Urdd:Squamata
Is-urdd:Serpentes
Teulu:Pythonidae
Fitzinger, 1826
Genera

Aspidites
Antaresia
Apodora
Bothrochilus
Leiopython
Liasis
Morelia
Python

Teulu onadroedd anwenwynig sy'n darwasgu eu hysglyfaeth yw'rpeithoniaid (Pythonidae). Maent yn byw yn ardaloeddtrofannol acisdrofannolAsia,Affrica acOceania. Mae'r mwyafrif ohonynt yn fawr ac yn gorffdrwm.

Ynghynt, cafodd y peithoniaid eu hystyried yn is-deulu (Pythoninae) o fewnteulu'r boaod (Boidae), gan yr oeddent i gyd ynnadroedd gwasgu. Y brif wahaniaeth rhwng y ddau deulu yw'r modd maent yn esgor ar eu hepil: anifeiliaidbywesgorol yw'r mwyafrif o foaod, tra bo'r peithoniaid i gyd yndodwy. Ymdorcha'r fam beithon am ei hwyau, ac mae ambell rhywogaeth yndeor.[1]

Byw mae'r peithoniaid ar y ddaear ac yn y coed. Ymgynhelir rhywogaethau daeardrig ger y dŵr: nofwyr cryf ydynt, ond ar y ddaear maent yn hela a bwyta. Mae ambell rhywogaeth, megis ypeithon gwyrdd (Awstralia a Gini Newydd), yn treulio bron ei holl oes yn y coed a'r llwyni.Mamaliaid acadar yw ysglyfaeth y peithoniaid mawrion. Mae rhywogaethau llai o faint yn bwytaamffibiaid acymlusgiaid. Mae ganddynt synnwyr arogleuo a golwg cryf, a gall y mwyafrif ohonyntsynhwyro gwres sy'n eu galluogi i hela yn y nos. Delir prae drwy neidio a brathu, ac yna ymddolenu o'i gwmpas a'i wasgu'n dynn a'i fygu. Trigai rhai rhywogaethau mewn ardaloedd trefol a maestrefol, gan helallygod mawr.[1]

Rhennir y teulu yn wythgenws:Antaresia,Apodora,Aspidites,Bothrochilu,Leiopython,Liasis,Morelia, aPython.[2] Ypeithon tyrchu Mecsicanaidd yw'r unig neidr ynyr Amerig sy'n dwyn yr enw peithon. Mae'r rhywogaeth hon yn debyg iawn i'r peithoniaid, ond nid yw'n aelod o'r un teulu. Dosbarthir o danLoxocemidae, ac yn unig aelod y teulu hwnnw. Rhoddir yr enw hefyd ar ypeithon tyrchu sy'n byw yngNgorllewin Affrica; aelod o deulu'r boaod yw'r rhywogaeth hon.[1]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.2(Saesneg) Python (snake group). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2016.
  2. (Saesneg)Pythonidae, ITIS. Adalwyd ar 2 Medi 2016.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Peithon&oldid=11093061"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp