Uned ogyfaint yw'rpeint a ddefnyddir yn ySystem Imperial Brydeinig a'rSystem Arferol Americanaidd. Yng Ngwledydd Prydain mae'n cyfateb i 34.68 modfedd gwibig (568.26 cm ciwbig) neu ⅛galwyn. Yn yr Unol Daleithiau mae'rmesur sych (33.6 modfedd giwbig neu 550.6 cm ciwbig) ychydig yn wahanol i'rmesur hylifol (28.9 modfedd giwbig neu 473.2 cm ciwbig). Yn y ddwy system mae'r peint yn hafal i ddaugwpan, ac mae ddau beint yn hafal ichwart.[1]
Bu rhaid i fragdyCwrw Llŷn frwydro am yr hawl i ddefnyddio'r gair 'PEINT' yn unig ar eu gwydrau cwrw, gyda Swyddfa Fesur Genedlaethol a Safonau Masnach Gwledydd Prydain yn gyntaf yn honni fod rheolau Ewrop yn gwahardd defnyddio’r Gymraeg fel mesur cyhoeddus ac yna'n honni y byddai'r gair Cymraeg yn drysu pobl. Yn dilyn ymyrraeth gan swyddfa'rComisiynydd Iaith, cafodd y cwmni'r hawl yn 2014 i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r Gymraeg yn unig, ar eu gwydrau cwrw.[2]