Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Paul Robeson

Oddi ar Wicipedia
Paul Robeson
Ganwyd9 Ebrill 1898 Edit this on Wikidata
Princeton Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1976 Edit this on Wikidata
ostrôc Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
Man preswylPaul Robeson House Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records, Philips Records, EMI Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Rutgers University–New Brunswick
  • Ysgol y Gyfraith Columbia
  • SOAS, Prifysgol Llundain
  • Somerville High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr,cyfreithiwr,llenor, chwaraewr pêl-fasged, chwaraewr pêl-droed Americanaidd, actor ffilm, actor llwyfan,gwleidydd,actor, cerddolegydd Edit this on Wikidata
Math o laisbas-bariton Edit this on Wikidata
Taldra75 modfedd Edit this on Wikidata
Pwysau219 pwys Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolProgressive Party Edit this on Wikidata
MudiadDadeni Harlem Edit this on Wikidata
TadWilliam Drew Robeson I Edit this on Wikidata
MamMaria Louisa Bustill Edit this on Wikidata
PriodEslanda Goode Robeson Edit this on Wikidata
PartnerHelen V. Rosen, Peggy Ashcroft Edit this on Wikidata
PlantPaul Robeson, Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Spingarn, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Neuadd Enwogion New Jersey, Gwobr Ryngwladol Stalin "Ar gyfer Cryfhau Heddwch Ymhlith y Gwledydd", Black Filmmakers Hall of Fame, Gwobr Paul Robeson, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auAkron Pros Edit this on Wikidata
Safleend Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Canwr acactorffilm atheatr o'rUnol Daleithiau oeddPaul Leroy Robeson (9 Ebrill189823 Ionawr1976).

Plentyndod

[golygu |golygu cod]

Ganwyd ynPrinceton,New Jersey, yn fab i weinidog a chyn-gaethwas o'r enw William Robeson a'i wraig Maria.

Prifysgol

[golygu |golygu cod]

MynychoddBrifysgol Rutgers ac ynaYsgol y Gyfraith, Columbia lle derbyniodd radd LL.B.; chwaraeoddbêl-droed Americanaidd ar lefel uchel yn y ddau goleg.

Actio a chanu

[golygu |golygu cod]

Dechreuodd ar ei yrfa fel actor llwyfan yn 1921 ynEfrog Newydd lle bu'n byw am saith mlynedd gyda'i wraig Essie. Yn ystod y cyfnod hwn, serenodd yn y ffilmThe Proud Valley, a dorrodd dir newydd o ran dangos y dyn croenddu fel ag yr oedd, yn hytrach nag felcaricature. Daeth yn enwog fel canwr caneuongospel hefyd.

Ei berthynas â Chymru

[golygu |golygu cod]
Paul Robeson ar y llwyfan yn ystod y gymanfa ganu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1958.

Bu Paul Robeson yn gysylltiedig gyda glöwyr De Cymru am 40 mlynedd bron. Daeth ar eu traws yn gyntaf yn Llundain ym 1929 lle roedd nifer ohonynt yn ddiwaith ac yn canu am eu bara menyn. Fe ddilynodd eu protest a dechreuodd canuemyn-donau ysbrydol iddynt. Cyfranodd at eu hachos drwy Gronfa Gymorth y Glöwyr, ac ymwelodd â sawl tref a chwm yn Ne Cymru gan gynnwysCastell-nedd,Aberdâr, aPhont-y-clun.

Roedd Robeson yn perfformio mewn cyngerdd yngNghaernarfon ym 1934 pan ddaeth newyddion trychinebGlofa Gresffordd. Rhodd ei dâl o'i berfformiad i'r gronfa ar gyfer teuluoedd y meirw. FfilmiwydThe Proud Valley ymMhont-y-pridd aSanders of the River ynTiger Bay,Caerdydd. Dywedodd Robeson, "it's from the miners in Wales I first understood the struggle of Negro and white together".

Yn eisteddfod y glöwyr ymMhorthcawl, 1957, perfformiodd Robeson drwy ganu ar y ffôn o Efrog Newydd, ac ymunodd âChôr Meibion Treorci i ganu "Hen Wlad fy Nhadau". Yn 1958 canodd ynEisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958, gydagAneurin Bevan yn ei gyflwyno. Gofynnwyd iddo os oedd am gael rodd i gofio'r eisteddfod, a gofynnodd Paul am lyfr emynau Cymraeg.

Hawliau dynol

[golygu |golygu cod]

Cefnogodd y gweithiwr a mynegodd ei farn ynglŷn âRhyfel Cartref Sbaen.

Yn ystod yrAil Ryfel Byd, cefnogodd ei wlad, a chanodd a pherfformiodd i'r milwyr ac fel Othello ynBroadway. Er hyn, ar ddiwedd y rhyfel rhoddwyd ef ar restr o boblpro-Sofiet gan yrFBI. Brwydrai dros hawliau'r duon a chymerwyd eibasbort oddi wrtho gan LywodraethUDA oherwydd ei ddaliadau Comiwnyddol ac o'r herwydd lleihaodd ei incwm yn fawr.

Diwedd ei oes

[golygu |golygu cod]

Treuliodd ei flynyddoedd olaf ynPhiladelphia.

Gweithiau

[golygu |golygu cod]

Ffilmiau

[golygu |golygu cod]

Llyfrau

[golygu |golygu cod]
  • Here I Stand (1958). Hunangofiant.

Gwobrau

[golygu |golygu cod]
  • Gwobr Heddwch Stalin (1952)

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Paul_Robeson&oldid=13103079"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp