Yn ôl traddodiad, un o feibionUrien Rheged oeddPasgen fab Urien (fl. ail hanner y 6g). Fel mab Urien, breninRheged yn yrHen Ogledd, roedd Pasgen yn un o ddisgynyddion y breninCoel Hen ac yn perthyn i linach yCoelwys.
Ceir sawl enghraifft o'r enw personol 'Pasgen' (Cymraeg CanolPascen;Hen GymraegPascent <LladinPascentius). Ceir enghraifft o'r enw Lladin ar garreg yn eglwysTywyn sy'n dyddio o'r 5ed neu'r 6g a cheir enw Pasgen fab Gwrtheyrn ar biler yngNglyn Egwestl (9g).
Ni chofnodir enw Pasgen yn y testun Cymraeg CanolBonedd Gwŷr y Gogledd, ond ceir llinach ei dad Urien Rheged yno. Dangosir yr achau hyn ei fod yn perthyn iLlywarch Hen. Yn y cylch o gerddi a adnabyddir felCanu Llywarch Hen, cyfeirir at bennaeth o'r enw Pasgen mewn cyd-destun sy'n awgrymu mai un o feibion Urien Rheged ydyw: gyda'i frodyrOwain ac Elffin brwydrodd yn y Gogledd yn erbynDunod fabPabo Post Prydain aGwallog fab Llëenog.
Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a BrythonigTrioedd Ynys Prydain, cofnodir 'Pasgen fab Urien' fel un o 'Dri ThrahawgYnys Prydain', gydaSawyl Ben Uchel aRhun fab Einion. Mae triawd arall yn cofnodi ei farch Arfwl Felyn fel un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (tom edystr='pwn-farch' neupack-horse). Enwir Arfwl Felyn yng Nghanu Llywarch Hen mewn deialog sy'n cyfeirio at Owain, brawd Pasgen.
Yn yr achau cofnodir Gwrfyw a Menrudd fel meibion Pasgen.