Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Partido Justicialista

Oddi ar Wicipedia
Partido Justicialista
Delwedd:PJ-logo.png, Partido Justicialista emblema.png
Enghraifft o:plaid wleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegPeronism,Poblyddiaeth, labourism,cenedlaetholdeb Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu21 Tachwedd 1946 Edit this on Wikidata
SylfaenyddJuan Perón Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCentrist Democrat International, Permanent Conference of Political Parties of Latin America and the Caribbean Edit this on Wikidata
PencadlysBuenos Aires Edit this on Wikidata
Enw brodorolPartido Justicialista Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://pj.org.ar Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0248pp edit this on wikidata

Plaid wleidyddol ynyr Ariannin yw'rPartido Justicialista (PJ) a sefydlwyd ar ffurf y Blaid Beronaidd ym 1946. Bu mewn grym o 1946 i 1955, 1973 i 1976, 1989 i 1999, 2001 i 2011, a 2019 i 2023.

Gwreiddiau'r blaid oedd y glymblaid a ddaeth âJuan Domingo Perón a'i gydymgeisydd Hortensio Quijano i rym ym 1946: y Blaid Lafur (Partido Laborista; 1945–47), a enillodd yr etholiad arlywyddol; anghydffurfwyr cenedlaetholgar ifainc o'r Unión Cívica Radical Renovadora, dan yr enw Unión Cívica Radical Junta Renovadora (1945–47); a cheidwadwyr y Centros Independientes (1945–47). Wedi'r etholiad, cyfunwyd yr ymbleidiau hyn gan Perón dan enw Partido Único de la Revolución (Unig Blaid y Chwyldro), ond gan fod ensyniad totalitaraidd i'r enw hwnnw newidiwyd i'r Partido Peronista. Yn ystod dau dymor cyntaf yr Arlywydd Perón (1946–55), bu'r blaid ynbeiriant etholiadol ac yn gyfrwng i nawddogaeth. Strwythur hierarchaidd oedd ganddi, a Perón yn arweinydd ar Uwch Gyngor, ac oddi tanynt rhwydweithiau ar gyfer y taleithiau, swyddi, cymdogaethau, a gweithleoedd. Bu perthynas glos rhwng y Peroniaid a Chydffederasiwn Cyffredinol y Gweithwyr, ac ym 1949 sefydlwyd y Partido Peronista Femenino i ferched, dan arweiniad y Brif FoneddigesEva Perón. Bu pwyslais ar ddisgyblaeth bleidiol, a threfnwyd ysgol i hyfforddi arweinwyr y dyfodol.[1]

Gwaharddwyd y blaid yn sgil dymchwel Perón yn yRevolución Libertadora ym 1955. Sefydlwyd yr Unión Popular fel plaid wrth gefn i'r Peroniaid gan Juan Atilio Bramuglia, cyn-Weinidog Tramor dan lywodraeth Perón, yn Rhagfyr 1955. Yn y cyfnod hwn, pan oedd Juan Perón yn alltud, arweiniwyd y blaid gan undebwyr llafur megis Augusto Vandor. Erbyn 1966 bu'r Unión Popular dan reolaeth y neo-Beroniaid, a geisiant gyfreithloni eu hachos drwy ymwrthod ag enw Perón. Cafodd y rheiny eu herio gan y rhai oedd yn deyrngar i Perón, a gofrestrwyd dan enw'r Partido Justicialista ym 1971. Bathwyd y termjusticialismo, sydd yn gyfystyr â Pheroniaeth, gan Juan Perón ei hun i gyfeirio at ei ideoleg ogyfiawnder cymdeithasol.[1] Mudiadsyncretaiddpoblyddol ydyw sydd yn cyfunollafuriaeth, y wladwriaeth gorfforaethol, a chenedlaetholdeb.

Parhaodd y rhwyg rhwng y neo-Beroniaid a'r Peroniaid uniongred nes i Juan Perón ddychwelyd ym 1973. Yn sgil marwolaeth Perón ym 1974, gwaethygodd yr ymgecru rhwng y ceidwadwyr a'r radicalwyr, a sefydlwyd y Partido Peronista Auténtico gan yr adain chwith. Gwaharddwyd pob plaid wleidyddol wedi i'rjwnta filwrol gipio grym ym 1976. Yn sgil cwymp y jwnta a'r adferiad democrataidd ym 1983, cafodd yjusticialistas eu beio gan nifer o etholwyr am gamlywodraethu'r wlad yn y cyfnod 1973–76 a galluogi'r cadfridogion i gipio grym.[1] Collodd y Partido Justicialista yr etholiad arlywyddol i'r Unión Cívica Radical ym 1983.

Dychwelodd y Partido Justicialista i rym ym 1989 dan yr ArlywyddCarlos Menem, a fu'n llywodraethu'r Ariannin nes 1999. Ers y 2000au bu'r Partido Justicialista dan reolaeth carfan ykirchneristas, yr arlywyddionNéstor Kirchner (2003–07),Cristina Fernández de Kirchner (2007–15), acAlberto Fernández (2019–23).

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.2(Saesneg) Paul H. Lewis, "Justicialist Party" ynEncyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 19 Mawrth 2021.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Partido_Justicialista&oldid=13446231"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp