Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Papur newydd

Oddi ar Wicipedia
Stondin papurau newydd rhyngwladol

Maepapur newydd yngyhoeddiad sy'n cynnwysnewyddion,gwybodaeth ahysbysebu, fel arfer wedi'i gyhoeddi ar bapur rhad. Gall thema'r papur fod yn un cyffredinol neu o ddiddordeb arbennig, ac fel arfer cyhoeddir yn ddyddiol neu'n wythnosol.

Fformat

[golygu |golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd modern yn un o dri maint:

Papurau newydd Cymraeg

[golygu |golygu cod]
Prif erthygl:Papurau newydd Cymraeg.

CaiffY Cymro ei gyhoeddi'n wythnosol. Maepapurau bro – papurau cymunedol a gaiff eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr – wedi dod yn brif nodwedd diwylliant newyddiaduroCymru yn ystod y tri degawd diwethaf.Y Byd oedd y papur newydd dyddiolCymraeg arfaethedig.

Papurau newydd Saesneg Cymru

[golygu |golygu cod]

Ymhlith y papurau newydd Saesneg a gyhoeddwyd yng Nghymru mae:

Enwau

[golygu |golygu cod]

Mae enwau papurau newydd yn amrywio'n eang o iaith i iaith ac o wlad i wlad. Mae rhai teitlau yn gwbl unigryw, ond mae nifer o newyddiaduron yn rhannu elfennau tebyg yn eu henwau. Yn aml, mae'r enwau yn cynnwys nod o ddinas, ardal neu wlad y papur. Ceir enghreifftiau o'r elfennau amlaf isod:

Mae gan nifer o bapurau teitlau sy'n cyfleu faint mor aml y'i cyhoeddir, megis yDaily ExpressRénmín Rìbào, aThe Weekly News. Mae gan eraill deitlau sy'n dynodi aipapur bore neubapur hwyr yw'r cyhoeddiad, er enghraifft ySouth China Morning Post,De Morgen, aLe Soir. Mae rhai enwau hefyd yn cyfeirio at gymeriadau mytholegol megis y negesyddMercher (El Mercurio,San Jose Mercury News) neuArgus Panoptes (Cape Argus,South Wales Argus). Mae rhai enwau yn cyfuno mwy nag un o'r syniadau uchod, er enghraifft yrInternational Herald Tribune,The Globe and Mail, yChicago Sun-Times, aBaner ac Amserau Cymru. Gan amlaf mae enw cyfansawdd o'r fath yn arwydd o ddau gyhoeddiad yn cyfuno.[1]

Yr Unol Daleithiau

[golygu |golygu cod]

Ym 1937, roedd gan tua ddau o bob tri phapur newydd dyddiol yn yr Unol Daleithiau un o'r enwau canlynol:News,Times,Journal,Herald,Tribune,Press,Star,Record(er),Democrat,Gazette,Post,Courier,Sun,Leader,Republic(an).[1] Mae'r teitlauDemocrat aRepublic(an) ar gyhoeddiadau Americanaidd yn cyfeirio at ddwy brif blaid yr Unol Daleithiau, yDemocratiaid a'rGweriniaethwyr.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1Larson, Cedric. "American Newspaper Titles",American Speech, 12(1) (Chwefror 1937), tt. 10-18.
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch ampapur newydd
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Papur_newydd&oldid=14203943"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp