Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Panda Mawr

Oddi ar Wicipedia
Panda Mawr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Carnivora
Teulu:Ursidae
Genws:Ailuropoda
Rhywogaeth:A. melanoleuca
Enw deuenwol
Ailuropoda melanoleuca
David, 1869
Panda Mawr

Mamal mawr arthaidd du a gwyn, llysysol yn bennaf, sydd wedi arbenigo ar fwytabambŵ ac ar fyw ym mynyddoeddAsia yw'rpanda mawr (Lladin:Ailuropoda melanoleuca). Ceir dau is-rywogaeth,Ailuropoda melanoleuca melanoleuca acAiluropoda melanoleuca qinlingensis.

Daw'r enwpanda o ail elfen y Nepalegnigálya-pónya ‘bwytwr bambŵ’. Yr enw Tsineëg ywdàxióngmāo (大熊猫). Fe'i ceir yn y coedwigoedd bambŵ ar lethrau uchel mynyddoedd rhan orllewinolGweriniaeth Pobl Tsieina, yn arbennig yn nhalaethiauSichuan aYunnan. Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, yn amrywio o 80 kg hyd 100 kg.

Er eu bod yn perthyn i'rCarnovora, maent yn fwytawyr planhigion, yn bennaf bambŵ. Nid ydynt yn medru treulio'r bambŵ yn effeithiol iawn, felly rhaid iddynt fwyta rhwng 9 a 14 kg y dydd, sy'n golygu eu bod yn treulio 10 - 12 awr y dydd yn bwyta.

Daeth y Panda Mawr yn symbol o rywogaethau mewn perygl. Y prif berygl i'r rhywogaeth yw colli'r fforestydd bambŵ y maent yn dibynnu arnynt.

Logo'r WWF

[golygu |golygu cod]

Y panda mawr yw logo y mudiad amgylcheddol ac amddiffyn byd natur, yWWF. Dewiswyd y Panda Mawr yn dilyn ymddangosiad y panda Chi-Chi yn Sŵ Llundain gan godi cwestiynau am natur cadwraeth a chynefin naturiol anifeiliaid gwylltion. Roedd lliw du a gwyn y panda hefyd yn gweithio'n dda mewn oes pan oedd y wasg brint fel arfer dim ond mewn du a gwyn.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Panda_Mawr&oldid=14108219"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp