Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Palindrom

Oddi ar Wicipedia
Sgwâr Sator, 79 OC

Gair, ymadrodd neu frawddeg sy'n darllen yr un peth yn ôl ac ymlaen ywpalindrom neubalindrôm.[1]

Enghraifft o balindrom Cymraeg yw "A dyma'r addewid diweddar am y da",[2] "Lladd dafad ddall",[3] "Wyneb di-wên i newid benyw", "Nia, ni lefara'n ara' fel 'i nain" a "Bara i arab". Palindromau o ran ystyr (ond nid llythrennau) yw'r geiriau 'nawr' a 'rwan'. O'u gosod at ei gilydd gyda chysylltair 'a', ceir: 'nawr a rwan', sy'n balandromig. Ceir rhai geiriau palandromig unigol, gan gynnwys: 'radar', 'madam' a 'cic'. Cyfansoddodd y PrifarddEirian Davies linell ogynghanedd baladromig: "Od nad wyf i fyw dan do" ('Hen dramp').

Benthyciwyd y gair palidrom neu palindrôm[3] o'r Saesnegpalindrome a fathwyd gan y dramodyddBen Jonson, o'r gwreiddiauGroegpalin (πάλιν; "eto") adromos (δρóμος; "ffordd, cyfeiriad").

Enghreifftiau cynnar

[golygu |golygu cod]

Ceir enghreifftiau o balindromau mor bell yn ôl â 79 OC - ar graffiti a sgwennwyd ar un o furiau'rHerculaneum wrth droedMynydd Vesuvius, sef 'Sgwâr Sator'. Brawddeg oLadin ydyw wedi'i cherfio mewn carreg:Sator Arepo Tenet Opera Rotas, sef 'Mae Arepo sur yn ymdrechu i ddal yr olwynion'. Mae'n balindromig gan fod llythyren gyntaf pob gair yn ffurfio'r gair cyntaf, yr ail lythrennau'n ffurfio'r ail air ayb. Gellir felly ei ddarllen mewn pedair ffordd (neu bedwar cyfeiriad), ac felly mae'n balindromig.

Ceir pos Lladin hefyd: "In girum imus nocte et consumimur igni" ("awn am dro fin nos a chawn ein llosgi") sy'n ddisgrifiad o ambellwyfyn (neu 'bry'r gannwyll'), ond perthyn i gyfnod diweddarach y mae hwn, mae'n debyg - i'rOesoedd Canol.

Arferai'r Groegiaid sgwennu'r geiriau, "Golch dy bechodau, nid dy wyneb yn unig!" sef:ΝΙΨΟΝ ΑΝΟΜΗΜΑΤΑ ΜΗ ΜΟΝΑΝ ΟΨΙΝ ("Nipson anomemata me monan opsin|Nīpson anomēmata mē mōnan ōpsin", gan ysgythru'r lythyren "ps" drwy dorri'r un lythyren GroegaiddΨ,psi), ar fedyddfaen. Daeth hyn yn arferiad ffasiynol a ymledodd i nifer o wledydd eraill gan gynnwys eglwysi yn Lloegr e.e. Eglwys y Santes Fair, Nottingham, basilica Hagia Sophia yngNghaergystennin a'r fedyddfaen yn eglwys St. Stephen d'Egres,Paris, Worlingworth (Suffolk),Harlow (Essex),Knapton (Norfolk), St Martin, Ludgate (Llundain), ac eglwys ynHadleigh (Suffolk).

Rhifau palindromig

[golygu |golygu cod]

Yn yr achos yma, rhifau (neu ddigidau o fewn y rhif) sy'n cael eu troi wyneb yn waered (neu eu gosod ar yn ôl) yn hytrach na'r llythrennau e.e. 2992. Mae plant a phobl ifanc yn eu hastudio oherwydd yr elfen o hwyl sy'n ymwneud â phalindrom. Mae'rrhif cysefin palindromig yn rhif palindromig sydd hefyd yn rhif cysefin, er enghraifft: 191 a 313.

Ffracsiwn parhaoln+n{\displaystyle {\sqrt {n}}+\lfloor {\sqrt {n}}\rfloor } yw palindom sy'n cael ei ailadrodd pan fon{\displaystyle n} yn gyfanrif.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Y gwyddonydd - Cyf. 17, Rhif 4 Rhagfyr1979; adalwyd 2 Ebrill 2015
  2. D. Geraint Lewis.Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 71.
  3. 3.03.1 palindrôm. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 1 Ebrill 2015.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Palindrom&oldid=12638597"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp