Mae Palesteina heddiw yn diriogaeth sy'n cynnwys gwladwriaethIsrael a'rTiriogaethau Palesteinaidd. Mae'r diriogaeth yma yn cael ei ffinio ganLibanus aSyria i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain,Gwlad Iorddonen i'r dwyrain a'rAifft (gorynysSinai) i'r de-orllewin. Ceir arfordir hir ar lan y Môr Canoldir. DynodaAfon Iorddonen y ffin ddwyreiniol.
Gorwedd Palesteina mewn lleoliad strategol rhwng yr Aifft i'r gorllewin a gweddill yLefant a'r Dwyrain Canol i'r gogledd a'r dwyrain. Mewn canlyniad mae sawl ymerodraeth wedi brwydro i'w meddiannu a'i rheoli ers gwawr hanes.
O ddiwedd y 4g OC ymlaen, ymadawodd nifer oIddewon. Daeth yn ganolfanpererindod i Gristnogion ac i'r Mwslemiaid hefyd, yn dilyn ei choncwest gan yrArabiaid yn 636 OC. Cipiwyd rhannau sylweddol o Balesteina gan yCroesgadwyr a bu yn eu meddiant o 1099 hyd ganol y 13g. Ar ôl cyfnod dan reolaeth yr Aifft, cipiwyd yr ardal ganYmerodraeth yr Otomaniaid yn 1516 ac fe'i rheolwyd ganddynt hyd yRhyfel Byd Cyntaf.
Ar ddiwedd cyfnod rheolaeth yr Otomaniaid agorwyd Palesteina i ddylanwadau newydd o'r Gorllewin. Dechreuodd Iddewon a fu ar wasgar ymsefydlu yno o ganol y 19g ymlaen. Gyda hyn, datblygoddSeionaeth gyda'r nod o sefydlu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina. Arwydd o hyn oedd sefydluTel Aviv fel dinas Iddewig newydd yn 1909. Yn ôl rhai awdurdodau roedd tua 100,000 o Iddewon ym Mhalesteina erbyn y 1900au, ond hanerwyd eu nifer yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn 1918 cipiwyd Palesteina gan Brydain. Cadarnheuwyd rheolaeth Prydain ganFandadCynghrair y Cenhedloedd yn 1922. GydaDatganiad Balfour yn 1917, roedd Prydain eisoes wedi mynegi ei chefnogaeth i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, ond arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng yr ymsefydlwyr Iddewig a'rPalesteiniaid brodorol wrth i'r Seionwyr gipio eu tir.David Lloyd George fu'n bennaf gyfrifol am hynny yn ei amser fel Gweinidog Rhyfel a Phrif Weinidog y DU. Saethwyd dros 5,000 o Balesteiniaid gan filwyr Prydeinig rhwng 1936 ac 1939. Cafwyd sawl ymosodiad terfysgol a chyflafanau gan grwpiau Seionaidd terfysgol fel yGang Stern. Dylifodd nifer o ymsefydlwyr Iddewig o Ewrop i'r ardal a gwaethygodd y sefyllfa. Yn 1947 penderfynodd yCenhedloedd Unedig rannu Palesteina yn ddwy wladwriaeth, un i'r Iddewon a'r llall i'r Palesteiniaid, yn unol â 'Penderfynaid Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 181' (UN General Assembly Resolution 181). Ond gwrthodwyd hyn gan y Palesteiniaid am y byddai'n golygu colli llawer o'r tiroedd gorau. Rhoddodd Prydain ei mandad heibio yn 1948 a chafwyd rhyfel gan yr Israeliaid ar y Palesteiniaid. Trawsfeddianwyd eu tiroedd a gorfodwyd miloedd lawer ohonynt i ffoi am eu bywydau: cyfeirir at hyn gan y Palesteiniaid felAl Nakba ("Y Catastroffi").
Ar ôl sefydlu Israel ac ers hynny hefyd, maenifer fawr o Balesteiniaid wedi gorfod ffoi eu mamwlad. Mae llawer o'r rhain yn byw mewn gwersi ffoaduriaid yn y gwledydd cyfagos. Ffoaduriaid o'r tir a feddianwyd i greu Israel yw trwch poblogaethLlain Gaza a chanran uchel o drigolionY Lan Orllewinol hefyd. Yn ogystal mae dros filiwn o Balesteiniaid yn byw yn Israel o hyd ond mae llywodraeth Israel yn cyfeirio atynt fel 'Arabiaid Israelaidd': mae ganddynt lai o hawliau sifil na'r Iddewon Israelaidd a safon byw sy'n is yn gyffredinol. Yng ngweddill y Dwyrain Canol, ceir y nifer uchaf o Balesteiniaid ar wasgar yngNgwlad Iorddonen,Syria aLibanus lle maent yn byw gan amlaf mewn gwersi ffoaduriaid dan ofalUNRWA. Mae dros 800,000 yn byw ynyr Amerig, yn bennaf ynUDA aTsile.
Yn ystod ymosodiad 2008 Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza credir fod oddeutu bron i 400 o blant. Yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol a ymwelodd â Llain Gaza yn 2009 (sefBritain-Palestine All Party Parliamentary Group) mae oddeutu 6,500 o blant wedi'u carcharu yn Israel. Ym Mehefin 2012 croesawodd Richard Burden AS (sef cadeirydd y grŵp) Adroddiad a gomisiynwyd gan y Swyddfa Dramor a ddaeth i'r canlyniad fod Awdurdodau Israel yn fwriadol dorri Pedwerydd Confensiwn Genefa dros Hawliau'r Plentyn.[5]
Rhwng 2000 a 2009 cafodd 6,700 o blant dan 18 oed eu harestio gan Awdurdodau Israel, yn ôl Amddiffyn Plant Rhyngwladol (Defence for Children International). Roedd 423 ohonynt mewn carchardai yn 2009; erbyn 280 roedd y ffigwr i lawr i 280. Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod hyn yn gwbwl groes i Ddeddfau Rhyngwladol.[6] Nid yw'n anghyffredin i'r plant gael eu dal mewn carchar am 6 mis heb weld eu teulu a'u bod yn cael eupoenydio.
↑"Palestine".GeoHive. Johan van der Heyden. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd3 OHydref 2015.Check date values in:|access-date= (help)
Dynodirgwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol ganlythrennau italig. 1 Cydnabyddir ganDwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir ynAffrica. 3 YnNe Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan oEwrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan oOceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysforSocotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.