Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Padova

Oddi ar Wicipedia
Padova
Mathcymuned, dinas fawr, tref goleg,dinas-wladwriaeth Edit this on Wikidata
Poblogaeth206,496 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Boston, Iași,Nancy, Handan, Coimbra,Cagliari,Freiburg im Breisgau, Beira, Zadar,Simferopol,Rhydychen Edit this on Wikidata
NawddsantAnthony of Padua Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg, Feniseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Padova Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd93.03 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
GerllawBacchiglione Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAbano Terme, Albignasego, Cadoneghe, Legnaro, Limena, Noventa Padovana, Ponte San Nicolò, Rubano, Saonara, Selvazzano Dentro, Vigodarzere, Vigonovo, Vigonza, Villafranca Padovana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.4078°N 11.8733°E Edit this on Wikidata
Cod post35121–35143 Edit this on Wikidata
Map

Dinas achymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrainyr Eidal ywPadova (Lladin:Patavium;Saesneg:Padua), sy'n brifddinasTalaith Padova ynrhanbarthVeneto. Saif y ddinas arAfon Bacchiglione, 40 km i'r gorllewin oFenis a 29 km i'r de-ddwyrain oVicenza.

Roedd y boblogaeth yn2011 yn 206,192.[1]

Mae traddodiad ei bod wedi ei sefydlu yn 1183 CC gan y tywysogAntenor oGaerdroea. Daeth ynmunicipium Rhufeinig yn45 CC neu43 CC.

Yn601, gwrthryfelodd y ddinas yn erbyn yLombardiaid, ac wedi gwarchae o 12 mlynedd, cipiwyd a llosgwyd hi ganAgilulf, brenin y Lombardiaid. Yn899 anrheithiwyd Padova gan yrHwngariaid. Sefydlwyd y brifysgol, y drydedd yn yr Eidal, yn1222. Daeth dan reolaethFenis yn1405, a pharhaodd hyn hyd1797 heblaw am gyfnodau byr.

Ymhlith atyniadau Padova maeCapel Scrovegni (Eidaleg:Cappella degli Scrovegni), gyda chyfres o luniau fresco ganGiotto. Gardd Fotanegol Padova,Orto Botanico di Padova, a sefydlwyd yn1545, yw'r hynaf yn y byd, ac mae wedi ei henwi'nSafle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Enwogion o Padova

[golygu |golygu cod]

Padova yw'r cefndir i ddramaWilliam Shakespeare,The Taming of the Shrew.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Padova&oldid=11574306"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp