Pabi gwyllt â blodaucoch llachar yw'rPabi Coch (Lladin:Papaver rhoeas). Fe'i cysylltir agamaeth ers sawl mileniwm, ac mae'nchwynnyn nodweddiadol mewn caeauŷd. Mae'nunflwydd, gyda'r blodau'n ymddangos yn hwyr yn ygwanwyn fel arfer.
Tyf un blodyn ar bob corsen fain, flewog. Mae pedwar petal ganddo, gyda smotyn du tua gwaelod pob un fel arfer.
Yn ogystal â bod yn chwynnyn cyffredin, fe'i tyfir yn fwriadol am ei hadau, a defnyddir wrth pobi ac i ychwanegu blas. Mae'r blodau yn fwytadwy yn ogystal, a gellir eu defnyddio mewnsalad neu i wneudsurop neu ddiodydd.
Mae'rpabi coch yn symbol goffa ar gyfer y rhai a fu farw mewn rhyfeloedd, a hynny ers adeg yRhyfel Byd Cyntaf gan eu bod yn tyfu ar gaeauFflandrys. Fe'u gwisigir yng ngwledydd yGymanwlad arSul y Cofio. Yn Hydref 2016 gwnaeth Ffederasiynau pêl-droed Lloegr a'r Alban gais i FIFA ganiatau i'w chwaraewyr wisgo band-braich gyda llun y pabi arno mewn gêm i'w chynnal ar 11 Tachwedd 2016. Gwrthododd FIFA'r cais hwnnw.[1] Yn 2011 gwnaeth FIFA dro pedol munud olaf gan ganiatáu gwisgo'r band-fraich yn ystod gêm Cymru yn erbyn Norwy.
Fel protest yn erbyn y dull imperialaidd o ddyrchafu'r pabi coch i goffáu Prydeinwyr yn unig, yn y 1980au dechreuodd rai wisgopabi gwyn yn arwydd o heddwch a choffâd pawb a laddwyd mewn rhyfeloedd.
Tynnodd Gerallt Pennant y llun hwn[1] rhwng Bewdley a Stourport ar 20 Mehefin 2010. Mae’n debyg fod llawer o blanhigion wedi blodeuo’n helaeth y flwyddyn honno, diolch i’r tywydd oer i ddechrau, ac yna’r sychder. Fel y dywedodd yr arddwraig Denise Quéré o Landerne, Llydaw:il faut les faire souffrir un peu - mae’n rhaid eu gwneud i ddioddef ychydig i gael llwyth o flodau.[2]