Chwaraeir pêl-droed Australaidd ar faes chwarae hirgrwn rhwng dau dîm, gyda deunaw chwaraewr yr un.
Rhaid i dimau gicio'r bêl drwy'r pedwar postyn gôl ar bob pen y maes chwarae. Rhoddir chwe "phwynt" am gicio'r bêl rhwng y ddau bostyn canolog, ac un "pwynt" am gicio'r bêl rhwng y pyst i'r dde a'r chwith.
Er enghraifft:Tîm A,14.11.95 yn trechuTîm B,12.6.78. CicioddTîm A bedair gôl ar ddeg (chwe phwynt yr un), ac un pwynt ar ddeg - (14 x 6) + 11 = 95. CicioddTîm B ddeuddeg gôl (chwe phwynt yr un), a chwe phwynt - (12 x 6) + 6 = 78. Felly,Tîm A sy'n fuddugol.