Dinas yng ngogledd-ddwyrainMoroco ywOujda (Arabeg: وجدة). Lleolir y ddinas tua 15 km i'r gorllewin o'r ffin rhwng Moroco acAlgeria a rhyw 60 km i'r de o lan yMôr Canoldir. Poblogaeth: tua 500,000. Mae'n brifddinas rhanbarthL'Oriental.
Mae'n ddinas ddiwydiannol sy'n gartref i Brifysgol Mohammed I. Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Angads. Mae rheilffordd yn cysylltu Oujda âFes aCasablanca i'r gorllewin; roedd hyn yn rhan o lein ar draws yMaghreb yn cysylltu Moroco, Algeria aTiwnisia, ond oherwydd yr anghydfod a helyntion yn Algeria does dim gwasanaeth ar draws y ffin heddiw.
Ceir peth dystiolaeth o bresenoldeb yRhufeiniaid yma pan fu'n rhan o dalaithMauretania Tingitana. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 994 gan Ziri ibn Atiyya, brenin y ZenataBerber. Ailadeiladwyd y ddinas yn y 13g gan y swltan Abou Youssef. Cafodd ei meddiannu ganFfrainc yn 1844 ac eto yn 1859. Dan reolaeth Ffrainc, cafodd Oujda ei defnyddio gan y Ffrancod fel gwersyll filwrol i reoli dwyrain Moroco.