Osteoarthritis yw'r math mwyaf cyffredin oarthritis yn y DU; mae'n gyflwr sy'n effeithio ar y cymalau. Mae niwed i'r cartilag (pad o feinwe gyswllt sy'n leinio'r cymalau) rhwng yr esgyrn yn peri i dyfiannau esgyrnog ddatblygu o gwmpas ymyl y cymalau. Mae hyn yn achosi llid y cymalau (synofitis). Y cymalau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio yw'r pengliniau, cluniau a chymalau bach y dwylo, ond gall unrhyw gymalau gael eu heffeithio. Fel rheol mae'n datblygu mewn unigolion dros 50 oed ac mae'n fwy cyffredin mewn menywod. Gall effeithio ar unigolion iau o ganlyniad i anaf neu gyflwr cymalau. Mae'r risg o gael yr anhwylder yn cynyddu ble mae'r dull o fyw (e.e. gwaith neu weithgaredd chwaraeon) wedi rhoi straen ar y cymalau dros gyfnodau hir. Nid oes iachâd i osteoarthritis ond gellir lleddfu'r symptomau drwy ymarfer ysgafn, esgidiau addas, ffisiotherapi neu lawdriniaeth.[1]