Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Opera

Oddi ar Wicipedia
Opera
Enghraifft o:genre gerddorol, dosbarth o theatr, type of dramatico-musical work Edit this on Wikidata
Maththeatre music,cerddoriaeth glasurol, musical drama, cyfansoddi cerddoriaeth Edit this on Wikidata
GwladEwrop Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 g Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspit orchestra Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/05lls edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1946 edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
La Scala, tŷ opera enwog ymMilano

Ffurf oddrama trwy gyfrwngcerddoriaeth ywopera. Fe ymddangosodd yn yrEidal ar ddechreuad y15g, ac fe'i chysylltir âcherddoriaeth glasurol y Gorllewin. Mae sawl agwedd o opera yn debyg i ddrama gyffredin:actio, gwisgoedd, ac addurn llwyfan. Fodd bynnag, yn wahanol i ffurfiau eraill o ddrama,canu sydd wrth graidd opera. Cyfeilir y canwyr gan grŵp o offerynwyr, a all fod cyn lleied ag 13 o offerynwyr (mewn operâuBenjamin Britten er enghraifft) neu'ngerddorfa symffonig llawn (fel mewn operâuWagner). Weithiau defnyddirdawns yn ogystal, yn enwedig yn y traddodiad Ffrengig (gyda chyfansoddwyr megisLully aRameau).

Mae sawl traddodiad o wahanol lefydd yn y byd a gelwir yn opera hefyd,Opera Tseinïaidd er enghraifft. Fodd bynnag, er fod ffurf tebyg ganddynt, datblygodd y traddodiadau hyn ar wahân: maent yn ffurfiau celfyddol nad ydynt yn dibynnol ar Opera Gorllewinol.

Yr opera yng Nghymru

[golygu |golygu cod]

Cenir opera gan gorau Cymru ersBlodwen, opera boblogaidd y DrJoseph Parry. Ar un adeg roedd y cwmnïau opera amatur yn niferus iawn. Ar ddechrau'r 20g hyfforddai a pherfformiai'r cantorion opera o Gymry yn Lloegr, a chyrhaeddai'r goreuon lwyfannau Sadlers Wells a Covent Garden.SefydlwydCwmni Opera Cenedlaethol Cymru gan y cyn-löwrIdloes Owen, sy'n cael ei gyfrif ymhlith y gorau yn Ewrop. Ymhlith y cantorion opera byd-enwog o Gymru maeGwyneth Jones,Janet Price,Elizabeth Vaughan,Stuart Burrows,Geraint Evans, aBryn Terfel.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Opera&oldid=13573821"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp