Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Omphalos

Oddi ar Wicipedia
Omphalos
Enghraifft o:cerflun Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Apollo yn eistedd ar yr Omphalos (darn arian bath, Antiochus Soter, c. 330 CC)

Maen marmor (Groeg όμφαλός), yn NhemlApollo ynDelphi,Gwlad Groeg, a ddynodai ganolbwynt y Byd, yn ôl y Groegwyr (ystyromphalos yw "bogail", "navel"; daw'r gair Lladinumbilicus ohono, benthyciad o'r Roeg).

Safai yng nghysegrfa fewnol y deml o flaen cerflun aur o'r duw Apollo ac o'i flaen yr oedd yr aelwyd sanctaidd â'i fflam tragwyddol. Roedd ar ffurf silindraidd wedi'i addurno â brodwaith cerfiedig tebyg i rwydwaith o ganghennau; tybir mai coeden sanctaidd oedd yromphalos yn wreiddiol. Roedd yn perthyn i'r amser cyn sefydlu'rpantheon Olympaidd, yn gysegredig i'r fam-dduwiesGaia. Yn ddiweddarach ddaeth yn rhan o gwlt y duw Apollo a chwareai ran bwysig yn nefodaethOracl Delphi.

Mae Omphalos yn enw ar un o frenhinesau cynnarLydia yn ogystal. Mewn hen chwedl Roeg mae hi'n cael ei phortreadu fel merch eithriadol hardd a swynodd yr arwrErcwlff (Hercules / Herakles). Dichon ei bod yn cynrychioli agwedd ar y Dduwies Fawr, neu offeiriades yn ei gwasanaeth, yn y chwedl honno.

Ceir Omphalos arall ar ynysCrete. Dywedir bod llinyn umbilical y duw Zeus wedi disgyn i'r ddaear yno.

Ffynonellau

[golygu |golygu cod]
  • J. Lempriere,A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
  • Oskar Seyffert,A Dictionary of Classical Antiquities (argraffiad newydd, Llundain, 1902)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Omphalos&oldid=11036991"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp