Dyfais gron sy'n medru troi arechel ywolwyn. Fe'i defnyddir ar gyfer trafnidiaeth ac mewn peiriannau ar gyfer gwahanol dasgau. Gelwir crefftwr sy'n gwneud olwynion pren traddodiadol ynsaer troliau.
Credir fod yr olwyn wedi ei defnyddio gyntaf ymMesopotamia yn y 4edd mileniwm CC.. Ar ochr ogleddol mynyddoedd yCaucasus, cafwyd hyd i feddau yn dyddio o tua 3700 CC lle roedd pobl wedi eu claddu ar wagenni neu gerti.
Roedd yr olwyn wedi cyrraeddEwrop aGwareiddiad Dyffryn Indus erbyn diwedd y 4edd mileniwm CC. YnTsieina, cofnodir cerbyd gydag olwynion yn dyddio o tua 1200 CC, a chred rhai ysgolheigion ei bod wedi cyrraedd Tsieina erbyn tua 2000 CC. Nid oes sicrwydd ai mewn un lle y darganfuwyd yr olwyn, a bod y wybodaeth amdani wedi ymledu, ynteu a gafodd ei darganfod yn annibynnol mewn sawl lle. Ni ddarganfuwyd yr olwyn gan wareiddiadau America, er i wareiddiad yrOlmec ddod yn agos.
Datblygwyd y syniad o olwyn yn troi ar echel yn ddiweddarach; ceir yr enghreifftiau cynharaf y gwyddir amdanynt yn niwylliant Andronovo tua 2000 CC. Yn fuan wedyn, datblygwyd y cerbyd rhyfel, a datblygoddy Celtiaid y syniad o roihaearn ar ymyl yr olwyn.