GwasanaethCristnogol a'ilitwrgi sy'n cynnwys yr Ewcharist neu'rcymun, gweinyddiad y sacrament, neu'r ordinhad oSwper yr Arglwydd yw'rofferen[1] yn enwedig ynyr Eglwys Gatholig Rufeinig, ond hefyd gan eglwysi a chynulleidfaoedd eraill megis yrAnglo-Gatholigion ac Anglicaniaidyr Uchel Eglwys.
Y Weddi Ewcharistaidd yw canolbwynt yr Offeren. Seilir y ffurfwasanaeth ar litwrgi hynafol sy'n dyddio'n ôl i'r oes Rufeinig. Mae'r ddefod yn cynnwys dwy ran: Litwrgi'r Gair, sy'n cynnwys darlleniadau o'rysgrythur a'r bregeth neuhomili; a Litwrgi'r Ewcharist, sy'n cynnwys yroffrymiad, gweddi'r cysegriad neu'r canon, a defod y cymun. Wrth graidd diwinyddiaeth yr Offeren mae athrawiaethtrawsylweddiad. Newidiodd yr Offeren yn sgilAil Gyngor y Fatican (1962–65), er enghraifft rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio ieithoedd ar wahân i'rLladin.
Gall "offeren" hefyd gyfeirio at osodiad cerddorol o rannau o wasanaeth yr offeren.[1]