Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Odysews

Oddi ar Wicipedia
Cerflun o Odysews o'r 2il ganrif ynFflorens.

ArwrGroegaidd sy'n ymddangos yng ngherddi epigHomeros, yrIliad a'rOdyseia ywOdysews (GroegὈδυσσεύς), a elwir hefydWlysses (Lladin:Ulysses). Mae'n freninIthaca, yn fab iLaërtes acAnticlea, gŵr iPenelope a thadTelemachus,

Yn yr Iliad, mae'n un o arweinwyr y Groegiaid sy'n gwarchae ar ddinasCaerdroea dan arweiniadAgamemnon. Mae'n enwog am ei gyfrwystra, ac ef sy'n meddwl am ystrywCeffyl Pren Caerdroea, sy'n arwain at gwymp y ddinas.

Ef yw arwr yr Odyseia, lle ceir hanes y daith adref iIthaca wedi i'r Groegiaid goncroCaerdroea. Mae'r daith adref o Gaerdroes yn cymryd deng mlynedd, ac mae Odysews yn wynebu llawer o beryglon ar y ffordd. Caiff ei achub rhagddynt yn rhannol trwy gymorth y dduwiesAthena, ond i raddau helaeth trwy ei gyfrwystra ef ei hun. Er enghraifft, pan mae'n cael ei ddal gan ySeiclopsPolyphemus, mae'n dweud wrtho mai ei enw yw "Neb". Mae wedyn yn llwyddo i ddallu Polyphemus; a phan mae yntau'n galw am gymorth daw'r Seiclopsiaid eraill i weld beth sy'n digwydd. Pan maent yn holi Polyphemus pwy sy'n ei boeni, mae'n ateb "Neb". Mae Polyphemus yn fab i dduw'r môr,Poseidon, sy'n troi'n elyn i Odysews.

Mae'n treulio saith mlynedd yn garcharor y nymffCalypso, nes iAthena ei pherswadio i'w ollwng yn rhydd. Erbyn iddo gyrraedd adref i Ithaca, mae wedi bod oddi cartref am ugain mlynedd i gyd, ac mae ei dŷ yn llawn o ddynion sy'n dymuno priodi ei wraig, Penelope, gan gredu ei bod bellach yn weddw. Mae Odysews yn lladd y rhain i gyd.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Odysews&oldid=11070388"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp